Dwi wedi bod mor brysur yn adrodd hanes fy ngwyliau yn yr haf fel nad ydw i wedi cael cyfle i ddweud am fy ymweliad â Llundain fis Hydref ac mae’n rhaid imi wneud am fy mod wedi gwneud ambell i beth cyffrous iawn; cyffrous iawn yn fy ngolwg i. Dyw aros yn Llundain ddim yn rhad felly mae’n syniad da chwilio am bethau sy’n rhad i’w gwneud yno a dyna a wnes i. Treuliais fy amser yn mynd o le i le i weld pethau am ddim a chael profiadau newydd. Y profiad mwyaf oedd defnyddio fy ngherdyn Oyster am y tro cyntaf. Y cerdyn Oyster yw’r ffordd rataf o deithio o gwmpas ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Llundain, ac ar gyfer rhywun sydd am deithio ar fysus mae’n berffaith. Yr ofn arferol am deithio ar fws yw peidio gwybod faint mae’n costio i fynd o fan i fan ac o beidio â bod â’r newid iawn ar gyfer taith arbennig. Bellach gyda cherdyn Oyster galla i neidio o fws i fws heb boeni am hynny dim ond imi roi digon o arian ar fy ngherdyn Oyster yn y lle cyntaf.
Un peth arall sy’n bwysig wrth fynd am hoe yw peidio â chael gormod o bethau i’w gwneud. Roedd gen i rhyw bedwar peth – dod o hyd i gofeb Catrin ferch Owain Glyn Dŵr yn y ddinas, ymweld â Bryn y Briallu (Primrose Hill), mynd weld yr arddangosfeydd diweddaraf yn y ‘National’ Portrait Gallery a Tate Britain.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael