Erthygl am John Fitzgerald yn Golwg
Roedd ‘na erthygl am John FitzGerald yn y cylchgrawn Golwg yr wythnos hon. Doedd hi ddim yn erthygl hir iawn, ond yr hyn oedd yn ddiddorol am yr erthygl oedd sylwadau Daniel Huws oedd yn cael eu dyfynnu fel rhan o’r erthygl. Mae pawb yn gwybod fod John, ar ôl bod yn Aberystwyth am ddeugain mlynedd, wedi symud i Lanelli yn ôl penderfyniad ei urdd. Roedd llawer o’r rhai oedd yn adnabod John wedi credu i hynny fod yn anodd ac roedd Daniel Huws yn cadarnhau hynny.
Pan orfodwyd ‘y Tad Fitz’ i adael Aberystwyth, roedd pobol leol yn protestio ond, yn ôl Daniel Huws, roedd y ffordd yr ymatebodd yr offeiriad yn nodweddiadol ohono.
“Roedd John yn ddig,” meddai, “ond wnaeth o ddweud, ‘mi gymerais fy llw i fod yn aelod o’r Urdd ac mae bod yn ufudd yn rhan o’r llw.’ Wnaeth e ddim protestio, dim gwrthryfela, ond derbyn ei dynged.
“I ddyn oedd wedi treulio deugain mlynedd yma, dw i’n meddwl bod ei ddadwreiddio fel’na ac amddifadu pobol Aberystwyth o’r Offeren yn yr iaith Gymraeg yn anghristnogol.”
Mae fy nghyfeillion anghydffurfiol ac ôl-anghydffurfiol wedi mynegi pethau tebyg, ac hyd yn oed wedi gweld claddu gweddillion John yn Aylesford, Swydd Gaint, fel y diffyg sensitifrwydd eithaf. Rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi ceisio deall pam fod y pethau hyn wedi digwydd, felly mae’n rhaid imi gyfaddef bod clywed Daniel Huws yn siarad fel hyn yn dipyn o sioc – ac yn defnyddio gair fel ‘anghristnogol’ – gan ei fod yntau’n Babydd ac felly’n deall yn well o lawer na rhai o’m cyfeillion beth yw natur llw ufudd-dod aelod o urdd crefyddol, ac felly mae hynny’n cadarnhau peth mor galed oedd yr hyn a ddigwyddodd i bawb oedd yn cael eu heffeithio.
Mae Daniel Huws yn cloi ei sylwadau gyda chyfeiriad at beth oedd effaith uniongyrchol John yn gadael Aberystwyth ar y gymuned Babyddol Gymraeg yn yr ardal, sef dileu’r offeren Gymraeg wythnosol yn y dref. Nid oes rhyw lawer o sylw wedi’i dalu i hyn yn gyffredinol ond fe ddylai fod wedi cael sylw mawr oherwydd mae’n sgandal mewn gwirionedd. Mae’r hyn a ddigwyddodd yn f’atgoffa i o beth oedd yna arfer yn digwydd o fewn i’r eglwys wladol yng Nghymru… yn y ddeunawfed ganrif! Mae sefydliadau eraill yn wynebu protest a chondemniad pan fo pethau tebyg yn digwydd ac efallai na ddylid eithrio eglwysi Cymru o hyn er mor boenus y gallai hynny fod. Mae ‘na boen yn y sefyllfa yn barod y mae’n rhaid mynd i’r afael â’i lleddfu. Wrth gwrs y mae ymateb llawer o Gristnogion i’w heglwysi yn debyg i ymateb John i’w urdd, mae’n ymateb o ufudd-dod, ond ni ddylai neb fod mor ufudd fel eu bod yn barod i oddef rhywbeth sydd yn ‘anghristnogol’.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Dau sylwad a dau na fydd, gobeithiaf, yn tynnu i ffwrdd o urddas y cofio am y Tad Fiz.
I mi mae’r ffaith iddo gael ei symud a gadael y gymuned Gatholig yn Aberystwyth heb wasanaeth Cymraeg yn adlewyrchiad o broblem sylfaenol eglwys fawr (enfawr) gyfundrefnol fel Eglwys Rufain. Ac fel wyt ti Dogfael yn dweud maen syndod clywed Pabydd yn galw hyn yn ‘anghyrhistnogol,’ nid fy lle i fel sylwebydd anghydffurfiol yw gwneud sylwadau felly am eglwysi eraill ond maen drawiadol fod pabydd yn gwneud y feirniadaeth drosto ef ei hun – rwy’n meddwl mae’r gair yw ‘humble.’
Yr ail bwynt, ôl-anghydffurfiol? Beth ar wyneb dear yw hynny, anarchiaeth? ;-)