Ers rhyw fis bellach mae Emma Reese wedi bod yn adrodd hanes ei hymweliad â Chymru ar ei blog Fel y moroedd. Mae’n ddiddorol iawn gweld sut mae hi yn ein gweld ni, y wlad, a sut brofiad yw hi i fod yn rhywun sy’n dysgu Cymraeg ac yn ceisio siarad yr iaith gyda phobl. Byddwn i’n annog darllenwyr Blog Dogfael i gael golwg arno. Nid yw’n waith hawdd o gwbl siarad iaith yr ydych chi’n ei dysgu. Pan fues i ar fy ngwyliau yn Strossburi (Strasbourg) a Brwsel dros yr haf roeddwn i’n ceisio siarad Ffrangeg ac Iseldireg, ond yn aml iawn byddai’r person yr oeddwn i’n siarad gydag ef yn dyfalu fy mod yn medru Saesneg ac yn troi at yr iaith honno. Mae hynny’n dorcalonnus am ddau reswm – nid ydych yn cael y cyfle i ymarfer yr iaith yr ydych yn ei dysgu, ac yn ail mae’n dystiolaeth bellach (petai angen hynny!) eich bod yn siarad yr iaith yn wael iawn (sy’n wir iawn am fy Ffrangeg, ac i raddau ychydig yn llai am fy Iseldireg), neu o leiaf mae’r person yr ydych yn siarad gydag e yn credu fod ei Saesneg yn well! Dwi’n ddiolchgar iawn fy mod yn medru Saesneg yn rhugl oherwydd y mae wedi bod yn allwedd i gymaint o wybodaeth a phrofiadau, ond weithiau mae’n medru bod yn fur sy’n anodd ei ddringo. Fel mae dysgwyr Cymraeg yn ei wybod yn iawn mae’n rhaid ichi ddysgu Cymraeg yn dda er mwyn i bobol beidio â throi i’r Saesneg. Mae hynny’n wir am ieithoedd eraill hefyd.
‘Ta beth, wrth ddarllen blog Emma Reese cefais fy atgoffa o ddau lun roeddwn i wedi’u tynnu ar y bore cyntaf fy arhosiad ym Mangor pan wnes i gyfarfod gyda hi. Y bore hwnnw roeddwn i wedi cyrraedd yng nghanol storm o wynt a glaw ac fe aeth fy ymbarél yn rhacs jibidêrs ar y ffordd lawr o’r llety i’r coleg. Bu’n rhaid imi roi’r ymbarél yn y bin. Ar y ffordd yn ôl i’r llety y prynhawn hwnnw roedd yn rhaid imi fynd heibio’r fan lle’r oedd yr anffawd wedi digwydd a beth oedd yn dal i fod yn y bid, ond yr ymbarél. Felly dyma dynnu llun ohono gyda chamera’r ffôn symudol. Diolch am fy atgoffa am hyn Emma!



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael