Beth mae DML yn ei ddarllen?
Mae’n nos Fercher a dim ond heddiw dwi’n llwyddo i ddod i delerau gyda’r hyn wnes i ddydd Sadwrn. Yn fy mrwdfrydedd i glirio a glanhau fe wnes i glirio’r bwrdd coffi o’i lwyth llyfrau heb eu cofnodi. Felly nid yw’n bosib imi ysgrifennu fy nghofnod arferol o’r hyn y mae DML yn ei ddarllen. Felly ymddiheuriadau mawr i ffans yr hyn mae DML yn ei ddarllen. Erbyn imi gofio yr oedd hi’n rhy hwyr; yr unig lyfr oedd gen i yn fy llaw oedd nofel Meinir Pierce Jones, Lili dan yr eira. Dwi ddim wedi darllen y nofel fy hunan, ond mae’r crynodeb ohoni ar wefan Gwales yn darllen fel hyn: “Nofel am hen gartref sy’n llawn cyfrinachau. Stori afaelgar wedi’i lleoli yn Sir Fôn, yn ymwneud â phroblemau cymdeithasol a’r gymuned amaethyddol.” Beth yn fwy fyddai unrhyw un yn ei ddymuno – Sir Fôn a phroblemau cymdeithasol!


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael