Gwyliau Awst 2007-08-30

Gwneud dim byd oedd fy nod ar gyfer diwrnod olaf y gwyliau ym Mrwsel a dwi’n falch o fedru adrodd fy mod wedi cyrraedd y nod yn gwbl ddidrafferth. Roeddwn i wedi gwneud yr holl grwydro, yr holl deithio a’r holl ddysgu yr oeddwn yn bwriadu ei wneud, ac felly roedd un diwrnod ar ôl i ymsegura pur. Codi’n hwyr, brecwast hwyr, ac yna RO a minnau i’n gwahanol ffyrdd trwy strydoedd Brwsel. Es i lan i sgwâr De Brouckèreplein a’r ardal yng nghanol y ddinas i ddechrau ac yn ar y premetro (yr enw am y tram tanddaearol) i sgwâr Rogierplein lle mae ‘na siopau diri a chanolfan siopa fawr City 2. Cyn mynd o gwmpas y siopau fe gefais ginio mewn bar ar Rogerplein ac yna i mewn i ganolfan City2. Ar lawr uchaf yr adeilad mae siop lyfrau, fideos, &c. enfawr Fnac. Mae’n siop weddol agored ac felly’n edrych yn fwy na’r rhan fwyaf o siopau llyfrau eraill dwi wedi ymweld â nhw erioed. Mae hefyd yn gwerthu cyfrifiaduron, setiau teledu, stwff awdio, &c. Ond y mae llyfrau yn cael lle canolog a dyna beth roeddwn i wedi dod i’w gweld, er taw dim ond edrych y gallwn ei wneud. Roedd fy nghês yn llawn a doedd gen i ddim lle i gario dim byd ychwanegol yn ôl gyda mi i’r hyn yr oeddwn wedi’i gasglu’n barod. Ond roedd hi’n bleser gweld silff ar ôl silff o lyfrau newydd ffres mewn Iseldireg a Ffrangeg, a chan ein bod ni yn Brwsel roedd ‘na domen o lyfrau Saesneg hefyd.

Cosy Corner, Begijnhofplein, BrwselWedi crwydro o gwmpas yr ardal honno o’r ddinas dyma gerdded yn ôl i’r gwesty i gwrdd ag RO ar gyfer swper. Doedden i ddim wedi trefnu dim, felly dyma grwydro o un bwyty i’r llall yn chwilio am rywle bach cartrefol. Ac fe ddaethon ni o hyd i le felly ar sgwâr Begijnhofplein (roedd Begijnhof ym Mrwsel hefyd) gyda’r enw dwl Cosy Corner. Roeddwn i wedi ffansïo’r cregyn gleision oedd yn cael eu hysbysebu yn y ffenest – a hynny ychydig yn fwy rhesymol eu pris na’r hyn oedd yn cael ei gynnig draw yn sgwâr Sint-Katelijneplein. Roeddwn i’n dechrau gofidio nad oedd pethau’n mynd i fod cystal â hynny gan fod y lle yn wag; ond roedd yn rhaid cofio taw nos Iau oedd hi a’n bod ni ychydig bach y tu hwnt i lwybr arferol twristiaid gyda’r nos. Cawsom bryd digon blasus ac roedd fy nghregyn gleision i’n ardderchog.

"Werd het enn annus horribilis"

Wedi swper fe es i yn ôl i’r gwesty ac fe aeth RO am dro o gwmpas yr ardal unwaith eto. Yn f’ystafell yn y gwesty fe wnes gynnau’r teledu a chael bod rhaglen ddogfen yn nodi deng mlynedd ers mawr Diana Tywysoges Cymru yn cael ei darlledu. Roedd y rhaglen mewn Iseldireg ond pan roedden nhw’n dangos pobol yn siarad yn Saesneg roedden nhw’n defnyddio isdeitlau. Roedd hi’n rhyfedd iawn gweld Diana yn cael ei chyfweld gan Martin Bashir neu’r frenhines yn sôn am y flwyddyn a oedd yn “annus horribilis” iddi hi gydag isdeitlau Iseldireg. Dychwelodd RO, dwi’n falch o gael dweud, ac fe wnaeth y ddau ohonom baratoi a phacio er mwyn gadael yn y bore.

Lluniau 2007-08-30.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>