Roedden ni wedi dod i Leuven i wneud mwy na dim ond gweld y golygfeydd, er roedd hynny’n ddigon o reswm ynddo’i hun. Fel mae’n digwydd mae Liesbeth yn byw yn Leuven ac Ivan mewn un o’r maestrefi, ac roedden ni wedi cael gwahoddiad i swper ati hi yng nghwmni Ivan. Y trefniant oedd ein bod yn ei gyfarfod ef ar Flochplein a’i fod yntau yn rhoi lifft inni i fflat Liesbeth a oedd yn weddol agos i Ysbyty’r Brifysgol, UZ Leuven. Yno mae ni’n gweithio fel anaesthetegydd. Fel mae’n digwydd gweithiodd y trefniant yn iawn. Dim ond wrth i’r siopau gau y cofiais y byddai’n syniad da i gael rhywbeth bach i fynd gyda ni ac felly fe aeth Ivan â ni heibio i archfarchnad ar y ffordd i brynu siocled i Liesbeth. O fewn dim roedden ni yn ei fflat bach – fi, RO, Ivan, Liesbeth a ffrind arall iddi, sef Geert.
Fe ddechreuon ni siarad am ryw hanner awr wedi saith gan orfod gorffen wrth iddi droi hanner nos ohewrydd yr oedd yn rhaid inni adael i ddal y trên olaf yn ôl i Frwsel. Beth wnaethon ni ei drafod? Popeth dan haul, ond roedd y rhan fwyaf o’n sylw yn mynd ar gyflwr Cymru a Fflandrys – y tebygrwydd a’r gwahaniaethau, a’r ffordd yr oedden ni’n gweld ein gilydd a’n hunain. Wrth inni siarad thrafod roedd Liesbeth wedi coginio swper Fflandrysaidd tipigol ar ein cyfer. Dywedodd hi ei bod wedi penderfynu ar y fwydlen wrth ddychmygu beth fuasai ei mam-gu wedi’i baratoi ar achlysur o’r fath. Yn ddiddorol iawn rodd Geert, er ei fod yn gweithio mewn banc bellach, wedi bod yn aelod o fyddin Gwlad Belg a’r pryd hynny wedi bod yn Swydd Efrog, Lloegr. Roedd ei Saesneg yntau yn berffaith hefyd.
Wrth siarad a siarad fe aeth yr amser yn ei flaen yn gyflym iawn ac yn y diwedd roedd yn rhaid inni frysio i ddal y trên olaf adref – diolch i yrru creadigol Ivan fe wnaethon ni ddal y trên. Yna rhuthr arall i ddal y trên tanddaearol o Brwsel Centraal i Sint-Katelijne. Ond yn y diwedd fe aeth popeth yn iawn ac roedden ni yn ôl yn ein gwesty yn saff i gysgu’n drwm ar ôl diwrnod arall llawn cyffro.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael