Gwyliau Awst 2007-08-28 (5)

Wedi inni ymlwybro trwy’r Groot Begijnhof roedden ni wedi cyrraedd gwaelod Naamsestraat. Ar hyd y stryd y mae llawer o hen golegau Prifysgol Babyddol Leuven yn gorwedd – dyma galon yr hen brifysgol a’r ardal sy’n teimlo’n weddol debyg i Rydychen neu Gaergrawnt ar lawer cyfrif. Bellach mae’r brifysgol wedi datblygu safleoedd newydd ar hyd a lled y ddinas, ac ar ei chyrion, ond yma y mae calon y sefydliad. Wrth gerdded yn ôl i fyny Naamsestraat roedd hi’n gyfle i RO a minnau bigo i mewn i gyrtiau nifer o’r colegau – y Coleg Americanaidd, Van Dalecollege, Atrechtcollege, Van Dalecollege – ac yna ymlaen i Sint-Michielsstraat a Maria-Theresiacollege a Paus Adriaan VI-College.

Paus Adriaan VI-College, Leuven

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>