Mewn llawer o ddinasoedd a threfi Fflandrys ceir yr hyn a elwir yn Begijnhof, yn llythrennol “Pentre’r Beginesau”, sef ardal wedi’i neilltuo ar gyfer cymuned Gristnogol lleyg o fenywod, sef y Beginesau. Yn Fflandrys roedd y mudiad yn arbennig o boblogaidd. Byddai’r Beginesau hyn yn ymroi i weddi a gweithredoedd da a byw mewn cymuned ond nid mewn ffordd ffurfiol fel y byddai lleianod yn ei wneud. Oherwydd hynny yr oedden nhw’n rhydd i adael y gymuned a dychwelyd i’r byd ar unrhyw adeg. Daeth y mudiad i’r amlwg yn Fflandrys yn y drydedd a’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Fel arfer roedd y Begijnhof yn cynnwys nifer o dai o gwmpas cwrt ac yn aml iawn roedden nhw wedi’u neilltuo oddi wrth y dref neu’r ddinas â phyrth a gatiau. Mewn dinas fel Leuven roedd cannoedd ar gannoedd yn byw yn y Begijnhof, a’r menywod hyn oedd y dylanwad crefyddol pwysig yn y dinasoedd yn ystod y cyfnod hwn. Wedi cyfnod diwygiadol yr unfed ganrif ar bymtheg fe ddechreuodd y mudiad wanychu fel y gwnaeth y diwydiant gwlân a oedd wedi bod yn sylfaen i gyfoeth Fflandrys.
Bellach does dim Beginesau ar ôl; yn ôl yr hanes bu farw’r ddwy olaf ddechrau’r ugeinfed ganrif. Ond mae’r Begijnhoven eu hunain, yr adeiladau oedd yn gartref i’r cymunedau, yn dal i sefyll ac yn un o drysorau pensaernïaeth hanesyddol Fflandrys. Ers Hydref 1998 mae 26 Begijnhof yn Fflandrys wedi’u rhestru gan UNESCO fel safleoedd treftadaeth byd-eang, yn eu plith mae Groot Begijnhof (Begijnhof Mawr), Leuven. (Mae ‘na Begijnhof bychan yn Leuven hefyd!) Yno ceir rhyw 60 i 70 o dai sydd bellach yn eiddo i’r Brifysgol ac wedi’u hadfer.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael