Mae’n amlwg i drigolion dinas Leuven nad yw bodolaeth y colegau hanesyddol hyn i’w cymharu â’r ffaith fod corff y Tad Damien, neu Pater Damiaan, yn gorwedd yn Eglwys S. Antwn sydd ar sgwâr Pater Damiaanplein gan eu bod wedi’i enwi ar ei ôl. Efallai nad oes gan lawer o neb syniad pwy yw’r Tad Damien heddiw, ond i i blant ysgolion Sul y 1950au a’r 1960au roedd ei enw, ynghyd â phobol fel Albert Schweitzer, Gladys Aylward, Leonard Cheshire, yn ffurfio oriel cwmwl tystion yr oeddem yn eu hedmygu ac yn cael ein hannog i’w hefelychu. Nid ei bod hi’n hawdd iawn efelychu gweinidogaeth Pater Damiaan ymhlith gwahanglwyfion Molokaī, Hawaī ym Mynachlog-ddu.
Cafodd ei eni yn Tremelo, sir Vlaams-Brabant (heb fod yn bell iawn o Leuven) yn 1840. Wedi cyfnod mewn seminari ymunodd ag Urdd Calonnau Santaidd Iesu a Mair yn Leuven yn 1860 ac yna fel cenhadwr i Hawaī yn 1864. Yn y pendraw fe gafodd ei hun yn gweinidogaethu ar ynys Molokaī i gymuned o 600 o gwahanglwyfion. Ymdrechodd yn galed iawn i wella cyflwr eu bywydau gan ennyn edmygedd eang. Yn y diwedd fe’i trawyd yntau gan y gwahanglwyf a bu farw yn 1889 yn 49 mlwydd oed. Cafodd ei gladdu yno, ond yn 1936 dychwelwyd â’i gorff i Leuven a’i osod yn nghrypt eglwys Sint-Antoniuskerk.
Mewn cystadleuaeth ar y teledu a gynhaliwyd gan ddarlledwr cyhoeddus Fflandrys VRT yn 2005 pleidleisiodd y gynulleidfa i Pater Damiaan fel y Belgwr Mwyaf erioed, De Grootse Belg. Dyma’r deg uchaf yn y gystadleuaeth.
- Pater Damiaan
- Paul Janssen (1926-2003)
- Eddy Merckx (1945- )
- Ambiorix (fl. 60-50CC)
- Adolf Daens (1839-1907)
- Andreas Vesalius (1514-1564)
- Jacques Brel (1929-1978)
- Gerardus Mercator (1512-1594)
- Peter Paul Rubens (1577-1640)
- Hendrik Conscience (1812-1883)
Cenhadwr.
Ffarmacolegydd a sylfaenydd y cwmni Janssen Pharmaceutica.
Seiclwr proffesiynol amlycaf Gwlad Belg. Cafodd gorsaf ar rwydwaith tanddaearol Brwsel ei henwi ar ei ôl.
Arweinydd gwrthryfel yn erbyn Iŵl Cesar a’r Rhufeiniad yn rhanbarth Gallia Beglica.
Offeiriad yn Aalst a oedd â rhan allweddol yn hanes undebau llafur a’r mudiad Fflemaidd. Fe’i hetholwyd yn aelod seneddol hefyd.
Meddyg ac awdur un o’r llyfrau mwyaf dylanwadol ym myd anatomeg, De humani corporis fabrica libri septem (1543).
Canwr.
Cartograffydd. Lluniwr yr atlas cyntaf o Ewrop.
Arlunydd.
Awdur y nofel De Leeuw van Vlaanderen a ffigwr amlwg yn y mudiad Fflemaidd.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael