Wedi cinio dyma droi o’r Oude markt i lawr i Parijsstraat a thuag at sgwâr Pater Damiaanplein. Yn sgwâr Pater Damiaanplein saif adeiladau dau o hen golegau Leuven a sefydlwyd ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg, sef Coleg S. Antwn o Badua (neu’r Coleg Gwyddelig, Iers College) a Choleg S. Pulcheria (neu Goleg Holland, Hollands College).
Bu’r ddau goleg yn bwysig iawn yn eu ffyrdd ei hunain. Warden cyntaf Coleg S. Pulcheria oedd Cornelius Jansen (1585-1638), tad Janseniaeth a gafodd y fath ddylanwad ar fywyd crefyddol Frainc a’r Iseldiroedd am y ganrif a hanner ddilynol. Roedd Coleg S. Antwn o Badua yn un o nifer o golegau ar gyfer Gwyddelod oedd wedi troi eu cefn ar Iwerddon o dan orfodaeth oherwydd y diwygiad Protestannaidd ac yn ceisio hyfforddi offeiriaid i ddychwelyd i’r ynys i fugeilio ffyddloniaid yr ‘hen ffydd’. Ond roedd y coleg hefyd yn un o gynheiliaid y traddodiad Gaeleg – yma y datblygwyd y teip a ddefnyddid ar gyfer argraffu llyfrau mewn Gwyddeleg, yma hefyd y lluniwyd y geiriadur Gwyddeleg cyntaf ac yr aed ati i roi trefn ar ramadeg yr iaith. Daeth y coleg i ben yn swyddogol fel sefydliad crefyddol yn 1983 pan roddwyd y coleg yn rhodd i bobol Iwerddon gan Urdd S. Ffransis ac erbyn heddiw mae’n gartref i The Louvain Institue for Ireland in Europe.
Roeddwn i wedi bod y tu fas i’r Iers College pan yn Leuven Nadolig llynedd, ond fel mae’n digwydd wrth i RO a minnau fynd heibio a dangos diddordeb yn y lle dyma Keith o Gorc yn sylwi arnom ni ac yn cynnig cyfle inni edrych o gwmpas y lle. Roedd Keith wedi dod i Leuven rhyw ugain mlynedd yn ôl i weithio ar y lle am dymor penodol ac roedd e’n dal i fod yma. Er ei fod yn byw yn Leuven prin oedd ei Iseldireg – prawf pellach ei bod hi’n bosib byw ym mhobman yn Fflandrys heb yr iaith – ond roedd yn dwlu ar y lle ac ar yr Iers College ac fe gawsom brofi peth o’i frwdfrydedd. Wnaeth e ddim peidio â siarad yn ystod ein hymweliad ac fe gawsom weld nifer o bethau diddorol dros ben. Mae’n amlwg fod arian mawr wedi’i wario ar y lle. Tystiolaeth bellach o allu’r Gwyddelod i odro’r fuwch Ewropeaidd o’i mililitre olaf.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael