Gwyliau Awst 2007-08-28 (1)

Tocyn bws De Lijn, Leuven 2007-08-28 (wyneb)Doedd hi ddim yn gynnar iawn arnon ni’n gadael Brwsel fore Mawrth ar ein ffordd i Leuven ar y trên. Roedd Liesbeth wedi ein gwahodd ni i swper ac roedden ni wedi trefnu gyda Ivan iddo ef ein cyfarfod yng nghanol y ddinas tua rhyw 6.00pm er mwyn mynd â ni i’w fflat. Ond roedden ni’n mynd yn gynt gan fod Leuven yn lle gwerth ymweld ag ef. I ddweud y gwir roeddwn i wedi bod yno pan yn aros ym Mrwsel y Nadolig diwethaf ac roedd gyda’r lle rhyfeddaf. Mae cymaint o’r gorffennol, cymaint o gyfoeth, a chymaint o’r presennol hefyd. Yr oeddwn i am i RO weld cymaint o pethau’n benodol – y gofeb ryfel y tu fas i’r orsaf, neuadd y ddinas, eglwys Sint-Pieterskerk, y Coleg Gwyddelig, bedd Pater Damiaan, y colegau, a’r Grote Begijnhof – fel nad oeddwn i’n meddwl y gellid gwasgu’r cyfan i mewn i’r un diwrnod. Ond fe lwyddwyd, er efallai ein bod wedi bod yn ychydig yn “mae’n ddydd Llun ac mae’n rhaid ein bod ni yn Stratfod-upon-Avon” ynglŷn â’r peth.

Stadhuis, LeuvenWedi cyrraedd gorsaf Leuven fe wnaethon ni brynu tocynnau bws De Lijn i fynd â ni i ganol y ddinas. Cafodd darnau helaeth o Leuven eu dinistrio yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail, felly mae’r ddinas yn cynnwys dogn go helaeth o goncrit. Stopiodd y bws yn Marschalk Fochplein lle mae ‘na ganolfan siopa goncrit, ond gyferbyn â’r siopau mae un o’r adeiladau mwyaf trawiadol dwi wedi’u gweld yn un man sef neuadd y ddinas, y Stadhuis. Mae’n fater o chwaeth os ydych chi’n ‘hoffi’ y bensaernïaeth, ond mae’n rhaid i bawb edmygu’r gwaith cywrain a’i wreiddioldeb. Fe ddechreuwyd ei hadeiladau yn 1439 gan Jan Keldermans II ac fe barhawyd â’r gwaith o 1448 tan 1463 gan y pensaer Mathys de Layens. Adnabyddir yr arddull bensaernïol fel Gothig ffaglog, neu Flamboyante gothiek. Mae’n anodd meddwl am well disgrifiad gyda’r meindyrau, tyrau, pinaclau, &c. Dyma adeilad sy’n dweud yn ddiamau fod Leuven y bymthegfed ganrif yn gyfoethog ac yn bwysig. Hyd yn oed heddiw mae’r adeilad yn dal i fod â’r gallu i wneud hyn. Pob tro y byddaf yn ei gweld o’r newydd mae’n hala ysgryd i lawr fy nghefn.

Pulpud, Eglwys Sint-Pieterskerk, Leuven

Wedi’r Stadhuis does dim byd arall yn gwneud cymaint argraff ar ddyn, ond mae gan Leuven drysorau eraill ac un ohonynt yw Eglwys Sint-Pieterskerk sy’n sefyll gyferbyn. Dioddefodd yr adeilad yn fawr yn ystod y ddau ryfel – fe’i llosgwyd yn ystod y cyntaf, a’i fomio yn ystod yr ail – ond mae’r gwaith adfer wedi bod yn wych gan adael adeilad syml a chymharol ddi-addurn. Heblaw wrth gwrs am y pulpud sy’n gampwaith baroque mewn pren sy’n cynnwys cerfiad maint llawn o S. Norbert yn cael ei daflu oddi ar ei geffyl mewn storm o fellt a tharanau.

Dim ond hyn a hyn o bensaernïaeth wych y gall neb ei werthfawrogi ar stumog wag ac felly fe aethon ni’n dau i’r Oude markt i chwilio am rywbeth i’w fwyta. Mae’r Oude markt, yr hen farchnad, yn llawn bariau a chaffis o un pen i’r llall ac mae’n fan poblogaidd gan y miloedd o fyfyrwyr sy’n astudio yn KUL, Katholieke Unversiteit Leuven, Prifysgol Babyddol Leuven – prifysgol hynaf yr gwledydd isel a sefydlwyd gan y Pab Martin V yn 1425 ac sy’n dal i fod yn un o brifysgolion blaengar Ewrop hyd heddiw. Ond mae’n rhaid i fyfyrwyr prifysgolion blaengar ymlacio ac mae’r Oude markt yn cynnig yr adnoddau i wneud hynny. Oherwydd nifer y tafarndai yno mae’r lle weithiau’n cael ei adnabod fel y bar hiraf yn y byd. Fe wnaethon i fynd i De Brosser. Ystyr yr enw yw rhywun sy’n chwarae triwant, y myfyriwr nad yw’n mynd i’w ddarlithoedd ond yn gwastraffu ei amser yn y tafarndai… yn yr Oude makt, mae’n rhaid. Roedd bwydlen fer i’w chael yno ond doedd hi ddim yn amlwg beth oedd pob peth oedd arni. Felly bu’n rhaid imi holi’r weinyddes. Rhaid imi gyfaddef nad oeddwn i’n arbennig o frwd dros wneud ond dyna a wnes i ar anogaeth RO. Cefais fy siomi ar yr ochr orau, fe lwyddais i ofyn a derbyn ateb y medrwn ei ddeall. Yn y diwedd cafodd y ddau ohonom bobo frechdan wedi’i chrasu. Dwi’n teimlo imi lwyddo yn y prawf ieithyddol hwnnw. Efallai nad oedd y bwyd yn wych, ond roeddwn i wedi deall beth oedd e. Diolch byth!

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>