Gwyliau Awst 2007-08-27 (4)

Bwyty Viva Rosa, Vlaamsesteenweg, BrwselRoeddwn i’n ‘gorffwys’ pan ddaeth RO yn ôl o’i grwydro yntau. Cafodd ymweliad digon diddorol ag adeilad y Senedd Ewropeaidd yn ôl a ddywedodd. Wedyn fe ymlwybrodd yn ôl trwy ganol y ddinas i’r gwesty. Pan ddaeth yr awr fe aethon ni mas i chwilio am swper. Dechreuon ni gyda’r bwytai pysgod wrth Sint-Katelijneplein ond doedd yr un ohonyn nhw yn edrych yn ddigon deniadol i gyfiawnhau y pris. Yn y diwedd fe gawsom ein hunain ar hyd Vlaamsesteenweg lle’r oedd nifer o fwytai ethnig. Y lle a aeth â’n bryd ni’n dau oedd Viva Rosa, bwyty yn gweini bwyd o Tunisia. Wrth gerdded i mewn dyma ni’n sylweddoli taw ni oedd yr unig bobol yno nad oedden nhw’n perthyn i’r gymuned Arabaidd, ond roedd y croeso yn un twymgalon iawn gan fenyw yr oeddwn i’n tybio mae hi oedd Rosa. Doedd dim llawer o ddewis – cwscws, cwscws, neu gwscws – ac felly fe wnaeth y ddau ohonom ddewis cwscws gyda chig oen. Dwi ddim yn un sy’n mynd am gig oen fel arfer, ond pan ym Mrwsel gwnewch fel y Brwseliaid. Tra’n disgwyl am ein swper fe gawsom ni blatiaid o olewyddion, puprod, cucmerau, &c. Wedyn fe ddaeth y prif gwrs cwscws gyda llysiau a chig a saws piquant (i roi ychydig o flas ar cwscws, mae’n rhaid). Roedd y cyfan yn flasus iawn.

Swper 2007-08-27

Wrth inni fwyta roedd mynd a dod cyson yn y caffi, ond prin oedd y bobol a oedd yn eistedd i gael pryd o fwyd. Roedd y lle yn fwy tebyg i ryw ganolfan gymunedol na busnes a Rosa yn frenhines ar y cyfan. Cyn inni adael dyma un o’r dynion yn dod i gael gair gyda ni. Roedd e am wybod o ble’r oedden ni’n dod gan nad oedd e yn adnabod sŵn y Gymraeg. Tybiodd yntau taw Norwyaid oeddem ni – efallai ein bod ni’n swnio felly, ond yn bendant doedden ni ddim yn edrych fel Llychlynwyr. Yn y diwedd dyma fi’n ceisio esbonio ein bod yn dod o Gymru yn fy Ffrangeg bratiog. Doedd e ddim yn deall. Roeddwn i’n tybio taw fy Ffrangeg gwael i oedd ar fai, ond mynte fe taw dim ond Arabeg a Saesneg roedd e’n deall mewn gwirionedd! Dyna ddangos pa mor angenrheidiol oedd Ffrangeg ac Iseldireg iddo yntau ym Mrwsel.

Wedyn ymlwybro yn ôl i’r gwesty i gysgu unwaith eto ac yn barod am ein diwrnod o gyffro yn dechrau yn gynnar y bore pan fyddem yn mynd i Leuven i gwrdd â Liesbeth a’i chyfeillion.

Holl luniau 2007-08-27.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>