Diwedd y byd II
Mae’n ddiwedd y byd unwaith eto, ond wnes i ddim sylwi. Y rheswm dros hynny oedd fy mod wedi f’ynysu fy hun neithiwr oddi wrth y byd mawr mas fan ‘na oherwydd yr oeddwn i’n siŵr y byddai bod yn Gymro yn brofiad poenus unwaith eto. Roeddwn i wedi disgwyl gweld yr Almaen yn trechu Cymru yn Frankfurt a Lloegr yn gwneud eu ffordd yn gymharol hawdd (diolch i ddiofalwch Rwsia yn erbyn Israel) i rowndiau terfynol Euro 2008 yn erbyn Hrvatska (Croatia). Roeddwn i’n anghywir, wrth gwrs. Ond o’r herwydd fe wnes i golli pob munud o’r mwynhad oedd i’w gael o weld Cymru fach yn sefyll yn blwcaidd yn erbyn cryfder pêl-droed (cymharol) yr Almaen.
Collais hefyd y cyfle i weld ail-ddarllediad o ddiwedd y byd, sef Lloegr yn colli i Hrvatska ac yn gadael cystadleuaeth Euro 2008. Mae diwedd y byd yn dod heibio yn llawer rhy aml y dyddiau hyn. Fe ddaeth i Gymru yn ystod Cwpan y Byd Rygbi – neu o leiaf dyna oedd yr argraff o ddarllen y Western Mail a gwrando ar ddarllediadau BBC Cymru – ond mae Lloegr yn colli yn Wembley yn erbyn Hrvatska yn ddiwedd y byd ar raddfa lawer mwy. Mae’r BBC a phob cwmni darlledu arall Seisnig-Brydeinig ynghyd â’r papurau newyddion Llundeinig wedi bod yn dweud hynny wrtha i yn ddi-baid ers imi sylweddoli beth ddigwyddodd am ryw 10.15pm neithiwr. A dyna sy’n gwneud gwylio diwedd byd Lloegr yn gymaint o bleser; mae fel rhyw fath o ŵyl dymhorol sefydledig sy’n dod heibio’n gyson ac mae pawb yn chwarae eu rhan yn berffaith oherwydd eu bod nhw wedi cael cymaint o ymarfer erbyn hyn – dim ond y chwarae sy’n newid. A’r rhai sy’n niddanu’n fwy na dim yw’r newyddiadurwyr gyda’u dagrau gwneud parod a’r twpsod hynny sy’n fodlon llenwi amser darlledu trwy ffonio i mewn i ddweud eu barn nhw ar beth sydd wedi digwydd.
Ac yn goron ar y cyfan roedd hi’n bleser digymysg i ddarllen sylwadau Roy Keane:
My opinion, looking in on England from the outside, is that there are too many egos involved in the England set-up and that has cost them dear (ar wefan BBC Sport).
Mae’n siŵr ei fod ef yn adnabod ego pan mae ef yn ei gweld ac mae meddwl am glywed hynny ganddo ef ar yr adeg hon yn siŵr o fod yn dân ar groen pob cefnogwr pêl-droed o Sais. Diolch Roy am rwbio halen yn y briw roedd yn blasu’n hyfryd!


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

roedd yn braf iawn bod yn Almaen dydd Iau – roedd yr Almaenwyr wedi disgwl cael Goalfest yn ein herbyn felly roeddent yn o dawel y diwrnod wedyn. Roedd die roten Drachen, fel maent yn ein galw, wedi rhoi tipyn o sioc iddynt. Mae un sylw wedi aros yn fy meddwl yn arbennig – pa chwaraewr a ddisgrifwyd fel hyn: ein harter Hund, der Rote?!
Wini:
“ein harter Hund, der Rote” – ai’r cyfieithiad yw ‘y ci caled, y cochyn? Os felly, Collins?
Fel dywedaf yn fy Speiskarte Deutsch gorau; ‘Der Deutsch Fussball Mannschaft – halten deinen Klappe!’ neu ‘Seinie Klappe ist jetz verhalten’? … neu rhywbeth tebyg.
Dogfael – oes quota ar baragraffau yng ngwlad y Dogfael? Mae’r cofnodion dd-baragraff yma’n gwneud dy berlau’n anodd i’w ddarllen.
Huw, Dyma fi wedi paragraffu’r cofnod. Gobeitho ei fod yn fwy darllenadwy bellach.
ie, Collins. Roedd y Klappen yn o dawel wythnos diwethaf ond rwan da ni yn yr un grwp eto ac unwaith eto mae´r papurau yn dweud mor hawdd fydd hi.