Cadair ar y stryd yn Aberystwyth

Cadair ar y stryd, Aberystwyth

Mae unrhyw un sy’n adnabod Dogfael yn dda yn gwybod taw ‘rhagfarn’ yw ei gyfenw. Mae ‘na bethau mewn bywyd sy’n fy nghythruddo’n lân, pethau y dylen i sylweddoli fod bywyd yn llawer yn rhy fyr i wneud hynny. Dyma restr fer iawn o rai o’r pethau hynny:

  • cynorthwyydd wedi’i sillafu cynorthwy-ydd;
  • trafod patios a ffenestri dwbwl;
  • criced;
  • seiclo y ffordd anghywir ar hyd stryd unffordd;
  • ymchwilwyr o’r cyfryngau yn credu bod dweud ‘ti’ yn arwydd o gyfeillgarwch;
  • banciau sy’n cynnig benthyciadau i rywun sydd ond wedi llwyddo talu ei orddrafft rhag ofn i’r stad o beidio â bod mewn dyled fod yn or-ddeniadol.

Ond does dim sy’n fy nghythruddo yn waeth na’r arfer o osod ‘pethau’ ar y stryd i gadw lle parcio fel petai’r stryd yn eiddo iddyn nhw. Os oes ganddynt achos go iawn o fod angen cadw lle mae’r heddlu yn fodlon darparu conau. Ond mae gwneud hynny gyda ysgol, cadair, darn o bren, neu unrhyw wrthych arall heblaw am gonau swyddogol yr heddlu yn ormod i mi. Felly pan welais i’r gadair yma ar y stryd tu fas i gaffi’r Caban yr wythnos ddiwethaf yr oedd yn rhaid imi dynnu llun.

Rhagor o luniau o’r gadair.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (3 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.67 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Cadair ar y stryd yn Aberystwyth

  • Seiriol

    “seiclo y ffordd anghywir ar hyd stryd unffordd”

    Dwi’n casau hyn gyda chas perffaith!

    Mae’n stryd unffordd i bawb!

    Ail agos yw seiclo ar balmentydd – ydyn nhw’n disgwyl i fi gerdded yn ganol y ffordd fel bod lle iddyn nhw ar y palmant?!

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>