Angladd Ray Gravell
Dwi’n gwybod fy mod yn adrodd hanes fy ngwyliau haf yn ddarniog iawn, ond mae cymaint o bethau eraill i sylwi arnynt y dyddiau hyn. Ddoe, er enghraifft, cynhaliwyd angladd Ray Gravell ym Mharc y Strade, Llanelli. Y peth agosaf i angladd wladol i’w chynnal ers sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol gyda’r Prif weinidog Rhodri Morgan yn arwain y digwyddiadau. Roedd hwn yn ddigwyddiad nad oeddwn i’n medru cofio ei debyg o’r blaen, ac yn gasgliad eclectig o sumbolau cyfoethog o’n cenedligrwydd a’n hunaniaethau cenedlaethol amrywiol. Mewn rhyw ffordd, fel y dywedodd Rhodri Morgan ei hun, roedd Ray Gravell yn cyfuno y ffrwd genedlaetholgar (a nodweddir gan wleidyddiaeth Plaid Cymru, Cymdeithas yr iaith Gymraeg, a mudiadau eraill) gyda’r ffrwd genedlgarol (a nodweddir gan rygbi, corau meibion a phyllau glo) sy’n rhan o’n hunaniaeth gendlaethol. Fe ddaeth y cyfan at ei gilydd ar y Strade, a hynny mewn ffordd deimladol gyda lle-gyffyrddiad o’r sentimental a oedd yn nodwedd o Grav ei hun; rhywbeth a oedd yn amlwg i bawb wnaeth wrando ar ei ddarllediadau radio. Ac i ddangos nad yw Dogfael yn rhy galon-galed i ymateb yn sentimental, rhaid imi gyfaddef bod gweld Robin o Fôn yn cario cleddyf yr orsedd a chân Gwyneth Glyn wedi cyffwrdd â mi yn arbennig. Roedd perfformiad Gwyneth Glyn yn arbennig iawn. Dim rhyfedd i’r cyfan gael effaith arna i ac ar filoedd o bobol eraill mewn gwirionedd oherwydd yr oedd yn achlysur trist, dyn cymharol ifanc yn marw’n ddisymwth ar ôl profi llawer siom mewn bywyd, ond yn ymateb i’r siomedigaethau hynny mewn ffordd adeiladol a oedd yn affirmadu bywyd. Roedd y ffaith ei fod yn marw yn 56 oed, yr un oed â’m mam pan bu hi farw yn ychwanegu at fy nheimladau i. Oherwydd hynny yr oeddwn yn ail-fyw y galar a brofais pan gollwyd fy mam wrth gofio Grav.
Wrth gwrs roedd ‘na rai pethau am yr holl ffws ynglŷn â’r angladd oedd yn fy anesmwytho. Roedd hi fel petai’r cyfryngau wedi dwyn yr hawl oddi ar bawb i benderfynu drostynt eu hunain sut yr oedden nhw am gofio Grav. Roedd yn rhaid cofio Grav fel hyn a’r fel hyn, ac roedden nhw yn mynd i ddweud sut i wneud, pryd, a pham. Mae’r cyfryngau yn gwneud hyn mor aml gyda digwyddiadau o’r fath a chyda digwyddiadau eraill hefyd. Maen nhw fel petaent yn ymhyfrydu yn eu gallu i ddylanwadu ar bobol, ac yn fodlon defnyddio y gallu sydd ganddynt i ddweud beth yw’r ffordd iawn i ymagweddu tuag at bawb a phopeth.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael