Dydd Gwener oedd ein diwrnod olaf ar ei hyd yn Strossburi. Doeddwn i ddim am wneud dim byd cyffrous iawn, ond roedd pawb yn dweud ei bod hi’n rhaid inni weld Eglwys St.-Pierre-Le-Jeune, neu Jung Sankt Peter. Felly i ffwrdd ar y tram o’r orsaf am Place Broglie ac oddi yno doedd hi ddim yn bell i gerdded i’r eglwys. Eglwys Brotestannaidd yw St.-Pierre-Le-Jeune ond mae ei hanes yn mynd yn ôl yn bell cyn diwygiadau’r unfed ganrif ar bymtheg. Yr hyn sy’n rhyfeddol am yr eglwys hon yw sut y mae wedi llwyddo i gadw haenen ar ben haenen o hanes yn gyfan. Adeiladwyd yr adeilad presennol ar safle eglwys o’r unfed ganrif ar ddeg, oedd wedi’i hadeiladau ar safle eglwys ar enw S. Colomban yn dyddio yn ôl i’r wythfed ganrif. Mae olion yr eglwys honno i’w gweld o hyd o dan yr eglwys bresennol yn y crypt ac mae’n cynnwys eglwys capel Rhufeinig yn dyddio o’r bedwaredd ganrif. Mae ‘na gloestrau godidog o’r unfed ganrif ar ddeg i weld yno o’r cyfnod pan roedd yn eglwys i briordy, ac ar y waliau y tu mewn i’r adeilad ceir murluniau o’r bedwaredd ganrif ar ddeg (a gafodd ychydig o help i gadw eu ffresni gydag adferiad ddiwedd y G19). Dechreuwyd addoli yn y dull Protestannaidd yno yn 1524. O 1682 tan 1898 rhannwyd yr eglwys yn ddwy rhwng cynulleidfaoedd Protestannaidd a Phabyddol, hyd nes i’r plwyf Pabyddol godi eglwys drostynt eu hunain. Does dim geiriau i ddisgrifio prydferthwch yr addurniadau yn yr adeilad. Fe dreuliodd RO a minnau dipyn o amser yma; bues i yn eistedd am hydoedd yng nghysgod y cloestrau yn edrych ar yr haul ac yn dychmygu fy mod yn Sbaen!


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael