Blog Dogfael yn y Western Mail
Doeddwn i ddim yn disgwyl y sylw ond fe wnaeth Lefi Gruffudd gyfeirio at Flog Dogfael yn ei golofn yng nghylchgrawn y Western Mail ddydd Sadwrn. Mae’n dda gwybod fod o leiaf un sy’n darllen Blog Dogfael; fe wnaeth byd o les i fy ego. Roeddwn i wedi mentro cyfeirio at hysbyseb uniaith Saesneg gan y Lolfa ym mhapur newydd y Cymro ryw wythnos neu ddwy yn ôl ac roedd Lefi Gruffudd o wasg y Lolfa am roi eu hochr nhw i’r stori. Yn ddiddorol iawn mae’n gofyn i mi pam nad oeddwn i’n chwilio i’r rhesymau fod Chris Needs wedi colli ei le ar Radio Cymru flynyddoedd yn ôl. Dwi ddim yn gwybod pam fod hynny wedi digwydd ond fe allaf ddychmygu nad oedd arddull wahanol Chris ddim wrth fodd rhai o wrandawyr sidêt y sianel honno gyda’u gofal cyson am safonau iaith, &c. Wrth siarad ei Wenglish mae Chris yn cynnwys talpiau o Gymraeg, ond wrth siarad Cymraeg mae’n debyg hefyd ei fod yn mentro cynnwys talpiau o Saesneg hefyd. Dyw’r fath hynny o beth ddim yn mynd i apelio at bawb, ac er fy mod i’n dwlu ar ei sioe ar Radio Wales pan dwi’n cael y cyfle i’w gwrando dwi’n gwybod nad yw pawb yn gwirioni’r un fath. Efallai y bydd ‘na esboniad yn hunangofiant Chris Needs Like it is y mae’r Lolfa newydd ei gyhoeddi.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael