Pwy sy’n siarad Iseldireg (2)

Chris NeedsDwi wedi penderfynu dechrau casglu enwau pobol annisgwyl sy’n siarad Iseldireg. Dwi wedi sôn am y cyntaf o’r blaen, sef un o’r ymgeiswyr am arweinyddiaeth plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg. Mae’r ail ar rhy rhestr yn fwy annisgwyl byth, sef y darlledwr poblogaidd Chris Needs sydd newydd gyhoeddi ei hunangofiant, Like it is. Wrth ddarllen beth oedd gan y cyhoeddwyr, Y Lolfa, ddweud amdano ar eu gwefan dyma ddarllen y datganiad canlynol: “An extremely intelligent man and able linguist who can speak Welsh, English, Spanish and Dutch …” Dwi’n teimlo ei bod hi’n fraint cael enw Chris Needs MBE ar fy rhestr i o bobl sy’n medru siarad Iseldireg. Tybed pwy fydd y nesaf?

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 2.50 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

3 sylw ar Pwy sy’n siarad Iseldireg (2)

  • Welas i Chris Needs pw ddiwrnod ar ‘Wedi 7′ yn cael ei gyfweld gan Angharad Mair. Mae i weld yn foi difyr, diddorol ac annwyl iawn. Heb os, fe wna i byrnu ei hunangofiant.

  • Emma Reese

    Ella rhaid i mi wneud rhesr Cymry sy’n medru Japaneg.

  • Roedd Dr. R. Tudur Jones yn medru darllen Is-Almaeneg a hynny oherwydd ei ffasinashwn erbyn diwedd ei oes a neo-Galfiniaeth y wlad, pobl fel Abraham Kuyper wnaeth sefydlu Prifysgol Rydd Amsterdam.

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>