Rhaid imi gyfaddef nad oeddwn i wedi sylwi ar hyn nes i rywun dynnu fy sylw ato. Yn Y Cymro yr wythnos hon mae ‘na hysbyseb gan wasg y Lolfa ar gyfer un o’i llyfrau newydd ar y tudalen blaen, sef hunangofiant y darlledwr di-gymar Chris Needs, Like it is. Gwych o beth, mae e’n ddarlledwr talentog ac yn gymeriad arbennig a dylai ei hunangofiant fod yn werth ei ddarllen. Ond am ryw reswm rhyfedd mae’r Lolfa wedi dewis hysbysebu’r llyfr yn Saesneg ar dudalen blaen Y Cymro. Nawr dwi’n gwybod fod y llyfr ei hun yn Saesneg (gwaetha’r modd gan bod Chris yn siarad Cymraeg yn rhugl ac yn acen hyfryd Cwm Afan) ond mae hysbysebu’n Saesneg yn y Cymro yn mynd â’r peth ychydig yn rhy bell. Dim ond rhyw wythnos neu ddwy yn ôl roedd sefydlwyr a pherchnogion y cwmni hwnnw yn dathlu pen blwydd y wasg ar y teledu ac yn pwysleisio eu radicaliaeth a nodweddid yn bendant gan gylchgrawn Lol. Trueni na fuasai hwnnw’n dal o gwmpas i gofnodi sut mae’r mawrion wedi syrthio, ond dyna ni mae 40 mlynedd yn ddigon o amser hyd yn oed i radicaliaid y 1960au fagu ychydig o barchusrwydd a goddefgarwch tuag at ein ‘English friends’. Esiampl wych o sut i fyw mewn harmoni yn y Gymru gwbl ddwyieithog newydd.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








[...] un sy’n darllen Blog Dogfael; fe wnaeth byd o les i fy ego. Roeddwn i wedi mentro cyfeirio at hysbyseb uniaith Saesneg gan y Lolfa ym mhapur newydd y Cymro ryw wythnos neu ddwy yn ôl ac roedd Lefi Gruffudd o wasg y Lolfa am roi [...]