Arwydd yn Aberystwyth

Wrth gerdded trwy’r dref heno fe sylwais ar yr arwydd hwn tu fas i’r hen Central sydd nawr wedi’i ail-enwi unwaith eto (os yw hynny’n bosib); yr enw newydd yw Salt. Mae’n amlwg eu bod nhw wedi ymddiried y gwaith o gyfieithu’r arwydd am y surveillance camera yn yr hon arwynebedd i arbenigwr go iawn!

Arwydd y tu fas i dafarn Salt, Aberystwyth

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

3 sylw ar Arwydd yn Aberystwyth

  • Un tro bu cyfeithiad ar y fwydlen yn ffenest Burger King yn Aberystwyth…. cyfeithiwyd “side orders” i “ochor trefn”…

    Pe na bai’r stori yn wir, bydde hi yn un drist tu hwnt…

  • Aled

    Gwelais i’r arwydd hon hefyd, mae hi wedi diflanu o’r mur erbyn hyn! Am wn i bod rhywun wedi rhoi darlith iddyn nhw am beryglion defnyddio gwefannau sy’n honni eu bod yn medru cyfieithu testun i’r Gymraeg.
    Da weld bod eu arwyddion “Toiledau” tu fewn i’r dafarn yn gwneud synnwyr!

  • Mae’r mind yn bogglo – wir yr!

    Digon gwael i fod yn dda. Bydd rhaid iddyn nhw ei gadw fe fel y gweliff y Cymry a ddaw yr aflendid a fu!

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>