Wedi bod yn yr eglwys fe wnaeth RO a minnau ymwahanu i grwydro ar ein pennau ein hunain. Dwi’n ofni na wnes i lawer iawn o grwydro fe es i yn ôl i Place Kléber ac oddi yno fe wnes i gymryd tram i Musée d’Art moderne et contemporain de Strasbourg (MAMCS) ac oddi yno fe gerddais yn ôl i’r gwesty. Am ryw reswm wnes i ddim tynnu llun o’r amgueddfa drawiadol ac nid oedd gen i ddigon o nerth i feddwl mynd o’i chwmpas, na llawer o amser. Wrth gwrs arwr celf fodern Strossburi yw Jean Arp (neu weithiau, Hans Arp) (1886-1966) a aned yno. Yr oedd yn un o sefydlwyr y mudiad Dada ond wedyn fe aeth yn ei flaen i sefydlu mudiad arall, Abstraction-Création. Yn ôl y sôn mae’r amgueddfa yn cynnwys degau o ddarnau o’i waith, ond roeddwn i wedi blino’n lân o grwydro ers y bore bach ac felly ni ddim.
Roeddem ni wedi trefnu i gyfarfod yn y gwesty am ryw 6.30pm er mwyn mynd allan i gael swper gyda’n gilydd. Yn hytrach na mynd tua’r canol roeddwn i’n meddwl y buasai’n syniad da i geisio dod o hyd i rywle ar y cyrion. Camgymeriad oedd hynny. Doedd y ddau ohonom ddim yn ei chael hi’n hawdd i gytuno ar ble i fynd. Felly dyma grwydro o un bwyty i’r llall ac yn raddol aeth y daith yn un hir iawn. Fel y dywedais i roeddwn i wedi blino’n barod a dwi’n ofni bod y daith hon a’r ffaith fy mod i’n disgwyl am fy mwyd wedi bod yn drech na mi a bu’n rhaid imi ddweud yn y diwedd nad oeddwn i am gerdded llawer pellach a hynny mewn tipyn o hwff! O’r diwedd dyma ni’n cael ein hunain ger yr eglwys gadeiriol a thu fas i fwyty roedd RO wedi bod yn llygadu yn gynt, Bwyty Caveau Gurtlerhoft – bwyty mewn seler! Erbyn hyn roedd fy nhraed yn dost ac roeddwn i eisiau bwyd, ac felly fe wnes i ddringo i lawr y grisiau i’r tywyllwch.
Buasai’n gelwydd i ddweud fod y sgwrs yn llifo wrth inni eistedd wrth y ford. Ond mae pethau fel hyn yn digwydd pan rydych chi’n mynd am wyliau gyda rhywun arall, yn arbennig felly pan nad ydych chi’n arfer gorfod ystyried beth mae rhywun arall am ei wneud yn aml iawn. Yn raddol fe ddechreuodd pethau normaleiddio. I ddweud y gwir fe wnaeth pethau ddod yn dda iawn. Efallai nad oedd y bwyty yn y lleoliad mwyaf delfrydol, ond roedden nhw’n cynnig pryd traddodiadol Elsass a hynny’n gymharol rhesymol. Fe wnes i ddewis y cyw iar mewn saws gwin gwyn (lleol) gyda spätzle, sef pasta Almaenig. Roedd yn flasus dros ben. Roedd y cyfan wedi bod yn werth yr holl drafferth. Blasus iawn. Erbyn diwedd y pryd roeddwn i wedi tawelu ac yn diolch i RO am ei amynedd.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael