Gwyliau Awst 2007-08-22 (8)

Eglwys Brotestannaidd S. Thomas, Strasbourg

Ie, eglwys arall! Byddai rhywun call wedi rhoi’r gorau iddi ar ôl yr eglwys gadeiriol. Ond Cymry ydyn ni a does dim digon o eglwysi i ateb ein galw. Roedd yr eglwys nesaf ychydig yn arbennig. Roedd yn eglwys Brotestannaidd yn y lle cyntaf ac weithiau mae Eglwys S. Thomas cael ei galw yn eglwys gadeiriol Brotestannaidd Elsass; ond efallai yn bwysicach na hynny i’r ddau o Gymru oedd y cysylltiad gydag Albert Schweitzer. Yn ogystal â bod yn ddiwinydd ac yn genhadwr, yr oedd Schweitzer yn gerddor heb ei ail, yn arbennig felly ar yr organ, a dyma’r eglwys lle cychwynnodd yntau cyfres gyngherddau organ o weithiau Johan Sebastian Bach a bu hynny yn fodd o ‘ail-ddarganfod’ athrylith y cyfansoddwr hwnnw. Gyda llaw bu Mozart hefyd yn chwarae’r organ yma.

Mae’r safle yn un hynafol ac mae’r eglwys yn dal i fod ag olion pensaernïol hynafol; mae ei siâp yn nodweddiadol o eglwys-neuadd, sef tuedd ar ddiwedd y cyfnod gothig. Adeg y diwygiadau crefyddol yn y G16 dechreuwyd addoli yma yn iaith y bobol yn 1524 ac yn yr un flwyddyn dechreuwyd rhannu bara a gwin ar adeg y Cymun Bendigaid. Erbyn heddiw mae’n dal i fod yn eglwys Brotestannaidd, neu Lutheraidd, ac mae’n dal i gynnal gwasanaethau mewn Almaeneg yn ogystal â Ffrangeg, a hynny er gwaethaf yr holl wasgu a fu dros y blynyddoedd o du’r awdurdodau pabyddol yn Ffrainc. Bu Martin Bucer, neu Butzer, yn weinidog yma yng nghyfnod cynnar yr eglwys Brotestannaidd. Bues i’n defnyddio fy Ffrangeg gorau i siarad gyda’r wraig oedd yn goruchwylio’r eglwys ac yn esbonio iddi fy mod wedi astudio cyfnod y Diwygiad Protestannaid ar gyfer Lefel A yn yr ysgol ac felly’n gwybod ychydig o hanes Bucer. Dwi ddimyn gwybod a wnaeth hi fy neall i, ond fe wnes i ei deall hi yn esbonio taw Almaeneg safonol ac nid Alsaseg a ddefnyddid yn y gwasanaethau.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>