Wedi profiad yr eglwys gadeiriol mae’n rhaid cyfaddef fy mod i am hoe oddi wrth adeiladau mawrion. Doedd dim byd yn well felly na mynd tuag at ran o’r ddinas oedd yn fwy dynol o ran maint a graddfa, sef Petite France. Mae’r ardal hon gyda’r mwyaf pictwresg mewn dinas sy’n eithaf hawdd ar y llygaid gyda’i strydoedd culion a’i thai hynafol. Roedd yr ardal hon yn arfer bod yn gartref i bysgotwyr, melinwyr a barceriaid ac o’r herwydd arhosodd nifer o’r tai heb eu newid dros y blynyddoedd. Mae llawer o’r tai yn dyddio o’r G16 a’r G17 ac wedi’u paetnio mewn lliwiau trawiadol, ac mae’r rhai sydd reit ar lan yr afon yn drawiadol iawn.
Wnaethon ni ddim treulio llawer o amser yn crwydro yn Petite France, yn hytrach fe eisteddon ni o dan goeden y tu fas i dŷ tafarn a gorffwys wrth wylio’r byd yn cerdded heibio. Ac mae’n rhaid bod cyfartaledd go uchel o ymwelwyr haf Strossburi wedi cerdded heibio yn y cwta awr y buon ni’n eistedd y tu fas La corde à linge yn Place Benjamin Zix. Roedden ni mewn man perffaith – dynion yn canu’r acordion yn y cefndir, cychod yn mynd heibio ar yr afon, torfeydd yn mynd a dod, a ninnau’n yn y cysgod ar brynhawn cynnes. Dim rhyfedd fod y twristiaid yn tyrru i Petite France.
Ar ôl gorffwys am dipyn cerdded ar lan yr afon i baratoi ein hunain ar gyfer ein heglwys nesaf. Mae ‘na lawer o eglwysi yn Strossburi ac mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn haeddu ymweliad.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael