Hwyl fawr Menzies a diolch am yr yogh!
Dim ond diwrnod neu ddau yn ôl fe glywsom ni fod pob un aelod seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi’r arweinydd, Menzies Campbell. Roedd hynny’n arwydd pendant nad oedd pethau’n dda iawn yn yr ardd. O fewn pedair awr ar hugain roedd Menzies Campbell wedi ymddiswyddo. Ffarwél felly i’r dyn oedd yn enwog yn fy ngolwg i am adfer yr yogh (sef y ‘z’ yn ei enw) i lygaid y cyhoedd. Ond peidied neb â digalonni fod pob diddordeb ieithyddol wedi diflannu o wleidyddiaeth gan fod un o’r rhai sy’n debygol o sefyll ar gyfer yr arweinyddiaeth, Nick Clegg, yn siarad Iseldireg yn rhugl. Tiwlip i bawb o bobl y byd!

Ffotograff gan bbcactii.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

… ond ffaith arall am Clegg a Huhne mae’n debyg yw fod y ddau ohonynt yn gyn-ddisgyblion yn ysgol fonedd Westminster. Mae’r snobs yn dal mewn grym mae’n amlwg.