Dwi’n ofni fy mod heb orffen gyda’r eisteddfod eto. Rhaid cau y pen hwnnw i’r mwdwl cyn symud ymlaen i sôn am fy ngwyliau yn Strasbourg a Brwsel. Roedden ni ar ein ffordd yn ôl o’r eisteddfod ddydd Sul ac wedi aros yn y Waun i gael cinio ac i dalu teyrnged i Nic Dafis. Ond roedd DML am fynd yn bellach i dalu teyrnged i un arall o blant y ffin, ond ochr Lloegr y tro hwn, sef y bardd Wilfred Owen a aned yng Nghroesoswallt. Fel mae’n digwydd roedd DJP a finnau wedi bod yno ychydig fisoedd yn gynt a hynny ddiwrnod hyfryd, y tro hwn eto yr oedd y tywydd yn garedig iawn. Mae Croesoswallt yn dref ddeniadol ac fe dynnwyd ni’n pedwar tuag at y cerflun o ffermwr y ffin sydd yn agos i’r eglwys lle mae’r gofeb i Wilfred Owen. Cofeb syml yw hi, plac ar y wal a dwy o gerddi mwyaf y bardd wedi’u gosod yno i’w darllen – Anthem for doomed youth a Futility. Wrth sefyll yno yn eu darllen yn yr haul fe gafodd effaith ddofn arnom. Es i yn ôl am ganol y dref ac aeth y tri arall ymlaen am yr eglwys.
FUTILITY
Move him into the sun -
Gently its touch awoke him once,
At home, whispering of fields unsown.
Always it woke him, even in France,
Until this morning and this snow.
If anything might rouse him now
The kind old sun will know.Think how it wakes the seeds, -
Woke, once, the clays of a cold star.
Are limbs, so dear-achieved, are sides,
Full-nerved, – still warm, – too hard to stir?
Was it for this the clay grew tall?
- O what made fatuous sunbeams toil
To break earth’s sleep at all?
Cyfarfu’r pedwar ohonom wedyn mewn siop goffi cyn mynd i sgwâr y farchnad. Mae’r sgwâr yn un cymysgwch rhyfedd o arddulliau pensaernïol. Ar un ochr mae ‘na dafarn o’r ddeunawfed neu’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gyferbyn mae Neuadd y Dref, adeilad Victoraidd mae’n rhaid ond wedi’i adeiladu gyda rhyw awgrym o arddull Elizabethaidd. Yr ochr arall i’r sgwâr mae Neuadd y Farchnad sydd, o gofio cymaint o’r trefi yma ar hyd y gororau sydd wedi cadw eu neuaddau marchnad traddodiadol mewn du a gwyn, yn adeilad modern y bathwyd y gair ‘carbwncl’ i’w ddisgrifio. Dwi’n gobeithio bod ‘na esboniad am hyn gan rywun.
Tra’r oedd tri ohonom yn crwydro’n hamddenol lan tua’r castell ac o gwmpas un o gapeli Eglwys Bresbyteraidd Cymru roedd DML yn ddiamynedd, gan ei fod yn disgwyl cael mynd cam yn nes at ei Wilfred Owen wrth ymweld â’i fan geni, Plas Wilmot, sy’n sefyll ar gyrion y dref. Roedd DJP a finnau wedi bod yno ar ein hymweliad blaenorol, felly roedd gennym syniad reit dda sut i ddod o hyd iddo – a hynny heb dderbyn dim help bron gan wasanaeth ymwelwyr y dref. Yn anffodus dyw hi ddim yn bosib mynd yn agos at y tŷ ei hunan ac felly mae’n rhaid ichi fodloni a sefyll wrth yr iet a cheisio gweld y tŷ ei hunan rhwng y coed. Ond os ydych chi’n ffan go iawn mae’n werth y drafferth dim ond er mwyn cael y profiad hwnnw.
A dyna ni. Plas Wilmot oedd y man olaf inni ymweld ag ef ar ein taith. Nawr roeddem yn troi ein llygaid tuag adref, tuag Aberystwyth a’r cyffiniau. Diolch am y tywydd braf a’n dilynodd ni’r holl ffordd yn ôl fe gawsom fwynhau’r gwyliau reit hyd at y funud olaf. Roedd hi’n rhyw saith o’r gloch y nos arnom yn cyrraedd – digon o amser i fynd ati i baratoi ar gyfer drannoeth a dychwelyd i’r gwaith. Wrth gwrs, ymhen wythnos fe fyddwn i ac RO yn gadael Aberystwyth ar daith arall.



![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael