Llynedd fe ges i’r pleser o gael gwahoddiad i drefnu cwis ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf yr Adran Gymraeg. Digwyddodd yr un peth eleni eto a wn i ddim am y myfyrwyr a’r staff oedd yno, ond mae’n rhaid imi ddweud fy mod wedi mwynhau mas draw. Mae rhywbeth yn gyffrous am gwrdd â myfyrwyr sy’n dechrau ar eu gyrfa yn y coleg; mae rhai yn nerfus ac ychydig bach yn swil, ond maen nhw i gyd yn llawn menter ac antur wrth i bob dydd ddod â phrofiad newydd. Dwi’n gobeithio felly nad oedd eu profiad ohonof fi yn ormod iddyn nhw. Roedd nifer dda o’r staff yno gan gynnwys dau oedd wedi fy nysgu i pan wnes i astudio Cymraeg flynyddoedd maith yn ôl bellach. Y goron ar y noson i mi oedd cyfle i sgwrsio gydag un neu ddau o fyfyrwyr, ac unwaith eto roeddwn wrth fy modd i siarad gyda thri o’r gogledd-ddwyrain, gan gynnwys un myfyriwr oedd wedi’i fagu yn Saltney! Roeddwn i’n hapus iawn iawn am weddill yr wythnos ‘ta beth.
Ydych chi’n medru ateb y cwestiynau hyn? Mae’r atebion ar y gwaelod.
NEWYDDION WYTHNOS YN DECHRAU 2007-10-07
1.Pwy yw un o enillwyr Gwobr Nobel eleni am gyfraniad i feddygaeth sy’n athro ym Mhrifysgol Caerdydd?
2.Pwy oedd yn gyrru’r car yr oedd Diana a Dodi yn teithio ynddo pan gafodd yntau a hwythau eu lladd ym Mharis ddeng mlynedd yn ôl?
3.Yn ôl adroddiad diweddar faint o swyddi sy’n cael eu cynnal gan S4C?
4.Beth yw enw’r undeb sy’n cynrychioli staff y Post Brenhinol sydd wedi bod ar streic dros y diwrnodau diwethaf?
5.Torrodd rhywrai i mewn i amgueddfa ym Mharis nos Sul ac ymosod ar baentiad gan Claude Monet. Mae’r amgueddfa yn gartref i gasgliad enfawr o baentiadau gan argraffiadwyr. Beth yw enw’r amgueddfa?
6.Ym mha dref yng Nghymru y mae stŵr wedi codi yr wythnos hon am fod addolwyr yn gorfod talu i barcio ym maes parcio y cyngor er mwyn mynd i’r capel ddydd Sul?
7.Pwy yw Ysgrifennydd Cartref Llywodraeth San Steffan sy’n poeni fod gan newyddiadurwyr fwy o ddiddordeb yn ei dillad a’i bronnau nag yn ei pholisïau?
8.Beth yw enw gwraig i gyn-arlywydd y Taleithiau Unedig sy’n ymladd am y cyfle i sefyll am yr arlywyddiaeth ei hun y flwyddyn nesaf?
9.Beth yw enw prif was sifil Cymru sydd wedi cyhoeddi ei fod am ymddeol fis Ebrill y flwyddyn nesaf?
10.Pa wleidydd Americanaidd siaradodd yng nghynhadledd y Torïaid yr wythnos ddiwethaf trwy loeren?
1. SYR MARTIN EVANS. 2. HENRI PAUL. 3. 2,250. 4. UNDEB Y GWEITHWYR CYFATHREBU. 5. MUSEE D’ORSAY. 6. ABERTEIFI. 7. JACQUI SMITH. 8. HILARY CLINTON. 9. SYR JON SHORTRIDGE. 10. ARNOLD SCHWARZENEGGER


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael