Gordon Brown yn cymhlethu fy mywyd
Dwi’n gwybod bod rhai yn ofni bod rhywbeth ofnadwy wedi digwydd i Dogfael a dyna pam nad oes cofnodion newydd wedi ymddangos ar Flog Dogfael ers bron i bythefnos. Mewn ffordd o siarad mae rhywbeth ‘ofnadwy’ wedi digwydd – dwi wedi bod yn rhy brysur i feddwl am ysgrifennu fy mlog. Dwi wedi bod yn mynd o un dydd i’r llall yn gwneud y peth hyn a’r peth arall yr oeddwn wedi addo eu gwneud, ond heb sylweddoli y buasai’r cyfan yn digwydd yr un pryd.
Efallai y person sy’n rhaid ei feio am hyn i gyd yw prif weinidog llywodraeth San Steffan, Gordon Brown. Fel un o swyddogion (cyn-swyddog, bellach) pwyllgor etholaeth Plaid Cymru yng Ngheredigion roeddwn i wedi cael y gwaith o drefnu’r broses o ddewis ymgeisydd seneddol ar gyfer yr etholiad cyffredinol San Steffan nesaf. Pan gytunais i wneud hynny doedd neb yn meddwl y buasai’r etholiad hwnnw’n cael ei gynnal am ryw ddwy flynedd. Yna’n raddol dros yr haf daeth y sôn bod etholiad cynnar yn bosib er mwyn rhoi cyfle i Gordon Brown sefydlu ei awdurdod ac er mwyn cymryd mantais ar wendid y Torïaid yn fwy ac yn fwy tebygol. Erbyn dechrau’r mis hwn roedd pawb yn gytûn bod etholiad cyffredinol ar y ffordd a bod yn rhaid cywasgu’r broses o ddewis ymgeisydd. Nid peth hawdd i’w newid yw hon gan bod ‘na reolau pendant ar sut mae’r holl broses i’w chynnal. Ceisiais i fy ngorau i sicrhau fod popeth yn dilyn y drefn, ac yna fe ddaeth hi’n amlwg fod Gordon Brown yn mynd i alw etholiad cyn inni orffen dewis. Roedd yn rhaid disgwyl am ganitâd i newid pethau oddi wrth Plaid Cymru yn ganolog ac roedd rhai ddim am wneud ar sail dyflau, dim ond pan fyddai’r penderfyniad wedi’i gyhoeddi. Wrth gwrs roedd Gordon Brown wedi ceisio cywasgu pethau cymaint fel na fyddai ond diwrnod rhwng cyhoeddi’r etholiad a chychwyn yr ymgyrch – dim digon o amser i ddewis ymgeisydd.
Er y buasem o bosib yn edrych ychydig yn ffôl o fynd i’r drafferth o ddewis ymgeisydd heb fod yr etholiad yn cael ei alw wrth i’r amser fynd yn ei flaen roedd pawb yn gytûn hefyd y buasem yn edrych yn fwy ffôl petai etholiad yn cael ei gynnal a ninnau heb ddewis ein hymgeisydd yng Ngheredigion, ac fe allai hynny effeithio ein gobeithio etholiadol hefyd. Felly roedd y gwaith o drefnu ac ail-drefnu a phenderfynu, a phopeth arall yn ôl y ffordd y teimlwn ar y pryd yn syrthio ar fy ysgwyddau i. Yn y diwedd fe gytunwyd i newid a chywasgu’r broses ac fe gollais wythnos o fy mywyd (ac o flogio!) wrth wneud hynny. Yn y diwedd cynhaliwyd y cyfarfodydd i ddewis ymgeisydd ddiwedd yr wythnos cyn yr adeg yr oedd disgwyl i Gordon Brown wneud ei ddatganiad. Roedd y cyfarfod terfynol fore Sadwrn ac fe ddewiswyd ymgeisydd, sef y Cynghorydd Penri James. Pob hwyl iddo.
Y prynhawn hwnnw wedi’r cyfarfod dyma fynd adref ac edrych ar y newyddion ar y we, a’r stori egsgliwsif ar wefan newyddion BBC oedd bod Gordon Brown wedi penderfynu peidio â galw etholiad cyffredinol wedi’r cwbl. Mae e’n talu am y whilibowan ar hyn o bryd, ac mae’n siŵr y bydd rhywrai wedi gweld ei ddiffyg pendantrwydd fel gwendid. Nid oedd ei berfformiad yn amddiffyn ei benderfyniad yn erbyn David Cameron yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos ddiwethaf yn llwyddiant mawr chwaith. Yr unig reswm i Brown beidio â galw etholiad oedd tystiolaeth y polau piniwn yn dilyn cynhadledd y Torïaid – mantais etholiadol oedd yr unig ffactor mewn penderfynu ynglŷn ag amseriad yr etholiad cyffredinol. I’m tyb i mae seneddau tymor-penodol gydag etholiadau ar adegau pan bo pawb yn gwybod pryd y byddan nhw’n cael eu cynnal yn llawer mwy gwâr ac yn golygu na fyddai’n rhaid i neb golli wythnos o’u bywydau ar chwiw un dyn fel y digwyddodd i mi!
Dyma ddywedodd yr aelod seneddol Kevin Brennan pan gyflwynodd yr aelod seneddol Tony Wright fesur yn y senedd yn galw am seneddau tymor-penodol yn 2001, “The whole election date speculation industry is a wasteful diversion from the real business of politics which is to bring about change for the better on behalf of the electorate”. Rhaid cytuno gyda hynny. Erbyn heddiw (dim ond wythnos yn ddiweddarch) mae’r holl sôn a fu am etholiad cyffredinol yn ymddangos yn bell iawn i ffwrdd, gan gadarnhau unwaith eto beth ddywedodd Harold Wilson am hyd wythnos mewn gwleidyddiaeth.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)

Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael