Diolchgarwch am y Cynhaeaf

Yn yr eglwys fore SulWedi dewis ymgeisydd yn y prynhawn roeddwn i mas y noson honno er mwyn dathlu Gŵyl Diolchgarwch am y Cynhaeaf. Rydym yn dathlu dros ddau ddiwrnod yn Eglwys y Santes Fair – swper ar y cyd ar y nos Sadwrn a gwasanaethau arbennig ddydd Sul. Yn y swper fel arfer bydd rhywun yn diddanu’r rhai sydd wedi dod ynghyd am ryw hanner awr. Eleni roeddwn i wedi cael gwahoddiad i wneud a hynny trwy gynnal cwis. Nawr dwi wedi cynnal cwisiau dros y lle i gyd, ond roedd y cwis hwn yn fwy anodd i’w drefnu na llawer oherwydd yr amrywiaeth o bobol oedd yn mynd i fod yno. Doedd dim ffordd i bigo ar bwnc penodol. Felly yr ateb oedd cwis lle na fyddai gan neb (neu lle’r oedd gan bawb) y cyfle i wneud yn iawn. Dyfaliadau yn hytrach na chwis mewn gwirionedd. Dyfalu beth yw’r pellter o’r fan i’r fan; beth yw pris y peth hwn neu’r peth arall. Roeddwn yn poeni rhyw ychydig am hyn i gyd, ond fel mae’n digwydd fe weithiodd yn arbennig ac fe gafwyd tipyn o sbort a phawb yn teimlo eu bod wedi bod yn rhan o’r hwyl.

Drannoeth roedd ‘na gyfres o wasanaethau: Cymun Bendigaid am 8.00am, Gwasanaeth teuluol am 10.00am a chyngerdd gan y grŵp Manna am 6.00pm. Yn y gwasanaeth am 10.00am roedd y siaradwr gwadd oedd Owain Edwards o Goleg y Bala. Fe wnaeth ef selio ei sgwrs ar hanes Bartimeus yn derbyn ei olwg yn ôl gan Iesu a’i ymateb i hynny. Fe welir yr hanes yn Efengyl Marc 10.46-52

Dyma nhw’n cyrraedd Jericho. Roedd tyrfa fawr yn dilyn Iesu a’i ddisgyblion allan o’r dref, a dyma nhw’n pasio heibio dyn dall oedd yn cardota ar ochr y ffordd – Bartimeus oedd enw’r dyn (hynny ydy, ‘mab Timeus’). 47 Pan ddeallodd mai Iesu o Nasareth oedd yno, dechreuodd weiddi, “Iesu! Mab Dafydd! Helpa fi!”
“Cau dy geg! ” meddai rhai o’r bobl wrtho. Ond yn lle hynny dechreuodd weiddi’n uwch fyth, “Iesu! Mab Dafydd! Helpa fi!”
Dyma Iesu’n stopio, “Dwedwch wrtho am ddod yma,” meddai.
Felly dyma nhw’n galw’r dyn dall, “Hei! Cod dy galon! Mae’n galw amdanat ti. Tyrd!” 50 Felly taflodd y dyn dall ei glogyn i ffwrdd, neidio ar ei draed a mynd at Iesu.
Dyma Iesu’n gofyn iddo, “Beth ga i wneud i ti?”
“Rabbwni,” atebodd y dyn dall, “Dw i eisiau gallu gweld.”
Yna dwedodd Iesu, “Dos, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu .” Yn sydyn roedd y dyn yn gweld, a dilynodd Iesu ar hyd y ffordd.

Allan o beibl.net

Rhagor o luniau o’r dathliadau.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>