Eisteddfod 2007-08-12 (1)

DML yn llarpio cyfansoddiadau'r eisteddfod i frecwastUn o bleserau cudd mynd i’r eisteddfod genedlaethol bob blwyddyn yw’r broses o ddychwelyd yn ôl i Aberystwyth. Gan fy mod yn mynd i’r eisteddfod gyda dau sy’n aros yno tan y funud olaf – un sy’n gorfod gwneud oherwydd ei fod yn gweithio fel arfer , ac un arall sy’n mynnu gwneud oherwydd ei fod am wasgu’r diferyn olaf o bleser allan o’r ysbwng eisteddfodol – mae hynny fel arfer yn digwydd ddydd Sul. Gan nad oes unman yng Nghymru – hyd yn oed o’n gwthio i eithafion Môn, Mynwy, Penfro neu’r Fflint – yn fwy na rhyw dair awr o Aberystwyth, mae hynny’n golygu ein bod yn medru dychwelyd yn hamddenol, gan gymryd amser i ymweld â’r lle hwn a’r lle arall.

Eglwys y Waun

Felly eleni eto. Mae’n rhaid imi gyfaddef tra bo pawb arall yn meddwl am yr eisteddfod dwi’n meddwl am beth allwn ni ei wneud ar ein ffordd adref o’r eisteddfod. Roeddwn i am alw heibio i bentref Y Waun i dalu gwrogaeth i’r arloeswr rhyngrwyd Cymraeg, Nic Dafis, sy’n dod o’r lle yn wreiddiol. Wedyn does dim llawer o ddewis ond mynd trwy Loegr ac roeddwn i’n gwybod y byddai cyfle i dalu gwrogaeth i’r bardd Wilfred Owen yn apelio i’r cwmni diwylliedig yr oeddwn wedi treulio wythnos yn eu cwmni.

Draig goch (gyda diffoddwr tân) mewn gwesty yn y WaunWnaethon ni ddim gadael yr Wyddgrug yn gynnar iawn fore Sul felly erbyn inni gyrraedd y Waun yr oedd hi’n amser inni feddwl am ein cinio. Mae’r pentref yn gorwedd ar y ffordd fawr ond mae darnau helaeth ohono yn cuddio oddi arni. Fel arfer pan fydd rhywun yn sôn am Y Waun mae pawb yn meddwl am y castell, ond mae llawer mwy i’r lle na hynny. Efallai o ran diwylliant poblogaidd yr hyn sy’n gwneud Y Waun yn arbennig yw taw yma y ganwyd un o’r sêr cynharaf y byd pêl-droed, sef yr enwog Billy Meredith. Nid dyn i gadw at y rheolau oedd Billy, ac fe gafodd ei wahardd o’r gêm ar un adeg am dalu llwgrwobr i aelod o dîm oedd yn chwarae yn ei erbyn er mwyn gadael iddo yntau ennill. Yn fwy anrhydeddus yr oedd yn un a arweiniodd yr ymgais i gael undeb llafur cryf i chwaraewyr pêl-droed proffesiynol. Er ar y bore Sul hwn welson ni’r un arwydd o gofeb i Meredith, ond dwi’n siŵr fy mod wedi clywed fod ‘na un wedi’i chodi iddo yn ei bentref genedigol ond doedd dim i’n cyfeirio’r teithiwr i’w chyfeiriad. Yn nes at ein hoes ni yma y ganed Paul Jones a fu’n chwarae fel gôl-geidwad yn nhîm rhyngwladol Cymru yn ystod y cyfnod 1997-2006.

Cinio 2007-08-12Yr unig le welson ni oedd ar agor i gael cinio oedd The Hand Hotel, ond nid yn y gwesty ei hun ond yn Ye Odle Brewery Suite yn bell yn y cefn. Roedd hwn yn lle digon normal ar un olwg, dim ond yn raddol y gwawriodd erchreiddigrwydd y lle arnom ni. Yn sylfaenol doedd hi ddim yn edrych fel petai neb yn ‘rhedeg’ y lle ac nad oedd gan y gweinyddwyr serchog yr un syniad o sut i ‘redeg’ eu hunain. Golygai hyn oedi mawr rhwng cyrsiau, rhai yn cael bwyd tra bod rhywun arall ar yr un bwrdd yn disgwyl deng munud am eu bwyd hwy. Ac roedd gofyn y cwestiwn am ba fath o gawl oedd i’w gael yn drech na phawb bron. Dylen ni fod wedi dyfalu bod rhywbeth bach rhyfedd am y lle wrth ddod i mewn a gweld model o ddraig goch enfawr yn sefyll yn y cyntedd gyda diffoddydd tân reit wrth ei hymyl rhag ofn i rywbeth fynd o’i le.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

3 sylw ar Eisteddfod 2007-08-12 (1)

  • Dafydd

    Mae Steddfod Caerdydd yn nesau!

  • [...] Dogfael yn Y Waun Beirniad blaenaf tai bwyta y rhithfro yn ymweld â fy hen fro. (tags: ywaun dogfael blogio) [...]

  • Dw i’n teimlo rhyw faint o gyfrifoldeb dros hyn nawr. Dw i wedi cael yr un fath o brofiad â ti yng ngwesty’r Hand, a rhai llawer gwaeth yn y bar cyhoeddus wrth law. Gwell beidio sôn am y rheiny.

    Mae coffeb Billy Meredith jyst cyferbyn â’r Hand, yn yr ardd ar bwys coffeb mareddog Eric Gill i filwyr y Rhyfel Fawr. Gallet ti fod wedi ymweld â’r lle wrth aros am dy gawl. ;-)

    Dyw e ddim yn beth hawdd i’w gyfadde, ond pan dw i am beint yn Y Waun, dw i’n tueddu cerdded dros y ffin (jyst abowt) ac yfed yn y “Trap”, neu’r Bridge i’w roi ei enw swyddogol. Tro diwetha i mi fod ‘na, oedd y boi tu ôl i’r bar yn gwisgo bathodyn Bwrdd yr Iaith, a ches i wasanaeth bonheddig, Cymreig a Chymraeg trwy’r nos.

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>