Mwy o ŵyl lyfrau Aberystwyth

Fore Sadwrn fe es i i’r ŵyl lyfrau unwaith eto. Yn y bore roedd dau yn siarad – Dylan Iorwerth yn sôn am lyfr Islwyn Ffowc Elis, Wythnos yng Nghymru Fydd, ac Angharad Tomos yn cael ei chyfweld am ei gwaith gan DML.

Dylan Iorwerth

Dylan Iorwerth oedd yn agor y bore gyda sgwrs ddifyr iawn am Wythnos yng Nghymru fydd. Fe wnaeth sôn am y llyfr ei hun a’r ffaith taw Cymru’r 1950au yw Cymru 2033 Elis a taw llyfr a ysgrifennwyd yn unswydd fel propaganda ar Plaid Cymru. Edrychodd wedyn ar y genre ffuglen wyddonol feddal (soft science fiction) sy debycaf i Wythnos yng Nghymru fydd. Er mwyn deall gweledigaeth Elis fe wnaeth dynnu ein sylw at bedwar gwaith arall yn benodol, Gulliver’s travels gan Jonathan Swift, Brave new world gan Aldous Huxley, Ninteen eighty four gan George Orwell, a We (Rwsieg: Мы) gan Yevgeny Zamyatin. Rhaid imi gyfaddef fy mod wedi cael blas mawr ar 1984 pan ddarllenais y llyfr gyntaf, ond wrth edrych yn ôl nawr dwi’n gweld fod mwy yn llyfr Huxley. Yn ôl a ddeallaf ceir peth o’r hyn oedd ganddo i’w yn ei ragymadrodd i’r argraffiad diweddaraf Wythnos yng Ngymru fydd.

DML ac Angharad TomosRoedd sesiwn Angharad Tomos gyda DML yn agoriad llygad. Roedd DML wedi paratoi yn drylwyr (fel mae’n gwneud bob amser) ac roedd hynny i’w weld yn amlwg yn y ffordd ddeheuig yr oedd yn llywio’r cwestiynau ac yn ymateb yn wybodus iawn i’r hyn yr oedd gan Angharad Tomos i’w ddweud am ei gwaith. Mewn un man mae hi’n cyfaddef fod DML yn gweld pethau nad oedd hi ei hun wedi sylwi arnynt. Nododd DML y rhaniad arwyddocaol rhwng y nofelau ‘ymgyrchu’ a’r nofelau ‘teuluol’. Sylwodd hefyd ar y ffaith bod ei holl waith i oedolion yn ffrwyth cystadleuaethau – boed hynny yn Eisteddfod yr Urdd, Y Fedal Ryddiaith neu Wobr Goffa Daniel Owen. Cyn diwedd mis Hydref fe fydd Angharad yn cyhoeddi nofel newydd arall, Wrth fy nagrau i. Nofel am effeithiau iselder wedi geni baban yw hon ac ynddi mae’r prif gymeriad yn ei chael ei hun mewn ysbyty meddwl gyda chymeriadau o lenyddiaeth Gymraeg fel y cleifion eraill – Gwladus Rhys, Bet o Tywyll heno, Heledd, a mam Caradog Prichard! Ar ddiwedd y sesiwn fe ddarllenodd Angharad ddarn byr ond pwerus allan o’r nofel newydd. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn i’w darllen, yn arbennig ar ôl y tamaid blasus hwnnw. Gyda llaw os yw DML i fod yn seren y byd darlledu rhaid iddo ddysgu sut i ddefnyddio microffon i siarad iddo yn hytrach nag fel hudlath! Dwi’n siŵr hefyd fod Angharad Tomos yn falch fod DML wedi dewis bod yn holwr tebycach i Angharad Mair na Jeremy Paxman.

DML yn holi Angharad Tomos – sylwch ar y dechneg gyda’r microffon.

Angharad Tomos yn darllen darn byr o’i nofel ddiweddaraf.

Rhagor o luniau o sesiwn Dylan Iorwerth.

Rhagor o luniau o sesiwn Angharad Tomos.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>