Heno, wrth basio tafarn Harleys ar y ffordd adref o wrando Bethan Gwanas yn siarad yng Ngŵyl Lyfrau Aberystwyth yng nghanolfan Morlan, fe glywais y gân Girls just wanna to have fun gan Cindy Lauper yn cael ei chwarae’n uchel. Roedd y gân yn crynhoi thema’r noson yn berffaith. Prif neges Bethan Gwanas oedd ei bod hi’n cael hwyl wrth ysgrifennu ac roedd hi’n gobeithio bod ei darllenwyr yn cael yr un pleser yn gywir wrth ddarllen. Roedd afiaith a brwdfrydedd Bethan yn amlwg iawn yn ei sgwrs. Cyfres o anecdotau a gafwyd ganddi yn bennaf, ond roedd hi’n dweud ei straeon mewn ffordd ddifyr iawn – rhywbeth sydd i’w weld yn eglur iawn yn ei rhaglenni teledu. Roedd hi’n noson ddifyr iawn, fel y buasai dyn yn ei ddisgwyl yn ei chwmni. Dwi ddim yn un sy’n darllen nofelau fel fy newis cyntaf, ond roedd ei dwy nofel Hi yw fy ffrind a Hi oedd fy ffrind yn llyfrau ffantastig a gwerth eu darllen. Dwi’n edrych ymlaen i’r nofel mae wrthi’n gweithio arni ar hyn o bryd hefyd, sef hanes y merched o Gymru a alltudiwyd i Awstralia fel cosb yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.


(1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.00 allan o 5)![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Spot on Dogfael! Dwi ‘di darllen ‘Hi yw fy Ffrind’ ac wrthi’n gweithio’n ffordd drwy ‘Ar y Lein’. Mae Bethan Gwanas yn swnio’n gymeriad a hanner :)