Roedd teithio ffiniau siroedd Fflint a Wrecsam yn agoriad llygad oherwydd bod yr ardal mor wledig. O leia dyna’r argraff a gefais i wrth deithio yn ôl i gyfeiriad yr Wyddgrug o Goed-poeth. Wedi troi oddi ar yr A525 a mynd trwy Goed-poeth yr oedd yn rhaid i mi gael mynd trwy Frymbo, man geni’r ffotograffydd Geoff Charles. Pan anwyd Geoff Charles yno ddechrau’r ganrif ddiwethaf roedd y lle yn fwrlwm diwydiannol – ond ar ôl dringo i fyny i’r pentref o’r hyn a welwn i doedd dim ar ôl yno i ddangos hynny bellach. Yr unig gliwiau i’r gorffennol oedd ambell i ystâd ddiwydiannol a thafarn yn dwyn yr enw Miners’ Arms.
Wedyn yn hytrach na mynd yn ôl ar y brif ffordd i’r Wyddgrug trwy Gefn-y-bedd a Chaergwrle fe aethom ni ar hyd dyffryn Afon Cegidog a thrwy bentrefi Y Ffrith a Llanfynydd. Roedd hyn yn newid byd o drefi bychain a phentrefi mawrion ôl-ddiwydianaeth oherwydd yr oeddem ni bellach yn ôl yng nghefn gwlad go iawn. Rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn i erioed wedi clywed am y llefydd ond wrth wneud ymchwil wedi dod adref fe ddysgais am un cysylltiad diddorol gyda Llanfynydd. Yma y bu Thomas Richard Lloyd (1820-1891) yn rheithor yn agos i hanner can mlynedd. Mae’r Bywgraffiadur yn crynhoi ei fywyd yn gryno mewn tri gosodiad: “Pleidiai lwyrymwrthodiad oddi wrth ddiodydd meddwol; arferai ddefodau a ystyrid yn ucheleglwysig; yr oedd yn eisteddfodwr brwd ac yn aelod o orsedd y beirdd dan yr enw ‘Yr Estyn’ – tybed a fyddai tri gosodiad yn ormod er mwyn crynhoi fy mywyd i!
Fel y dywedais roedd ardal Y Ffrith a Llanfynydd yn ymddangos yn gwbwl wledig i mi. Mae’n gwbwl bosib bod diwydiant wedi bod yma unwaith, ond erbyn hyn roedd wedi diflannu’n llwyr. I ddweud y gwir unig ôl dyn oedd yn amlwg ar y tirwedd oedd olion Clawdd Offa. Roedd y ffordd trwy’r dyffryn yn dilyn llwybr y clawdd yn agos am dipyn ac roedd yn amlwg hyd yn oed o ffenest y modur wrth deithio heibio. Dyma ardal sy’n haeddu ailymweliad.


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael