Eisteddfod 2007-08-09 (4)

Y Stiwt, Rhosllannerchrugog

Wedi cael y kiełbasa doedd dim byd yn fy mhoeni mwyach, roeddwn i’n medru ymlacio a mwynhau fy hun. Roeddwn i wedi bod yn poeni ers dechrau’r wythnos na fyddwn yn llwyddo i ddod o hyd i’r kiełbasa oedd ei angen ar gyfer creu’r profiad Pwylaidd awthentig ar gyfer fy nghyd-eisteddfodwyr. Ond roedd hynny y tu ôl imi bellach wrth deithio o Wrecsam i gyfeiriad Rhosllannerchrugog. Roedd RO am weld y Stiwt, neu yn hytrach Plas Mwynwyr Rhos. Theatr a chanolfan gymdeithasol bellach, ond yn wreiddiol roedd yn ganolfan a godwyd gan lowyr yr ardal er mwyn rhoi cartref i’w gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol. Fe’i hagorwyd yn 1926 ond dros y blynyddoedd dirwyodd y lle wrth i’r diwydiant glo ddirywio ac yn 1977 fe’i caewyd. Deng mlynedd yn ddiweddarach roedd cynlluniau ar y gweill i ddymchwel yr adeilad, ond yn hytrach fe gafodd ei achub a’i adfer, a bellach mae’n werth ei weld unwaith eto.

Penuel, Capel y Bedyddwyr, RhosllannerchrugogWrth deithio trwy Rosllannerchrugog mae dyn yn dod yn ymwybodol iawn o’r cyfraniad mawr a wnaed gan Gristnogaeth i fywyd beunyddiol pobol yn y pentref yn y gorffennol. Ar bob cornel mae ‘na gapel neu eglwys, ac nid rhyw bethau bach ansylweddol ydyn nhw fel arfer, ond adeiladau enfawr y mae’n anodd credu ei bod hi’n bosib eu llenwi. Ond roedd llawer mwy o bobol yn byw yn y Rhos bryd hynny. Sylwais ar gapel y Bedyddwyr yn benodol, sef Penuel. Adeilad brics coch trawiadol sydd, er ei fod wedi gweld dyddiau gwell, sy’n dal i gyfleu rhywbeth o nerth a phwysigrwydd y capeli. Bu Lewis Valentine yn weinidog yma am gyfnod yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.

Eglwys S Andreas, Wern, MwynglawddWedi ymweld â’r Rhos dyma benderfynu mynd i gyfeiriad y Mwynglawdd a Choedpoeth – ardaloedd sydd wedi bod yn ddiwydiannol ers canrifoedd. Ar ein ffordd i’r Mwynglawdd fe aethom heibio i eglwys sinc S Andreas, y Wern – un o’r ychydig addoldai sinc sydd ar ôl yng Nghymru bellach, ond sy’n cynnwys hefyd Eglwys Dewi Sant, Nebo, ger Aberaeron. (I’r rhai sydd â diddordeb mae’n werth ymweld â gwefan Tin Tabernacles). Ond wnaethon ni ddim aros yno ond yn hytrach wrth byllau plwm y Mwynglawdd yn nyffryn Clywedog lle bu cloddio ers y canol oesoedd. Bellach mae’r safle wedi’i gloddio gan archeolegwyr a bellach gwelir olion gweithfeydd y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yno.

Pyllau plwm y Mwynglawdd

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>