Eisteddfod 2007-08-09 (3)

Marchnad fwyd, WrecsamRoedd sawl rheswm dros fynd i Wrecsam ddydd Iau, ond efallai’r un oedd yn pwyso fwyaf arna i oedd yr angen i ddod o hyd i selsig kiełbasa ar gyfer y stiw Bigos roeddwn i wedi bod yn ei goginio ers y noson cynt. Nid yw’n bosib gwneud Bigos heb kiełbasa, ond er chwilio a chwilio doeddwn i ddim wedi dod o hyd iddyn nhw. Roedd hynny’n dipyn o syndod gan fod ardal Sir y Fflint a Wrecsam wedi dod yn gartref i filoedd o Brwyliaid yn ôl beth mae pawb yn ei ddweud. Roeddwn i wedi clywed fod ‘na siop Bwylaidd yn Wrecsam ei hun, ond methu dod o hyd iddi wnes i. Bu RO a minnau’n crwydro’r dref am dipyn a galw ym marchnad y cigyddion ac mewn ambell i siop ac yna fe ddaethon ni ar draws marchnad fwyd awyr agored cwbl annodweddiadol o Wrecsam, roedd fel rhyw werddon o wlad dramor wedi’i thrawsblannu i ganol y dref. Y peth pwysig i mi oedd bod ‘na stondin yn gwerthu selsig Bwylaidd yno, ac yn eu plith kiełbasa. Roedd fy nghalon wedi’i llonni; nawr roeddwn i’n gwybod y byddai’r Bigos yn llwyddiant. Wedi prynu’r kiełbasa roedd gwynt y garlleg yn ein dilyn i bob man, ond doedd hynny’n poeni dim ohonof i – roeddwn i wedi dod o hyd i’r trysor roeddwn i’n ei geisio.

Selsig Pwylaidd yn Wrecsam

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>