Ble mae rhywun yn dechrau ar y gwaith o ddisgrifio Eglwys San Silyn, Wrecsam. Mae’r adeilad yn un rhyfeddol o ran maint am eglwys plwyf ac o ran cyfoeth y cynnwys. Ar bob llaw mae rhyw drysor neu fanylyn sy’n taro dyn. Fel mae’n digwydd llosgwyd yr adeilad yn 1463 ac fe ailadeiladwyd yr eglwys yn dilyn hynny. Dechrau’r unfed ganrif ar bymtheg hefyd ychwanegwyd y tŵr sy’n cael ei ystyried fel un o saith rhyfeddod Cymru. Profodd yr adeilad dipyn o ddiffyg gofal yn yr ail ganrif ar bymtheg ond dyma’r adeg y bu Walter Cardoc yn gurad yn y plwyf ac y defnyddiwyd ei bregethu i argyhoeddi Morgan Llwyd. Daeth Llwyd yn ddiweddarach yn weinidog y plwyf yn agos i ddiwedd cyfnod y weriniaeth, ond bu farw o fewn ychydig amser i’w apwyntio. Dwi’n siŵr fod ymddangosiad rhwysgfawr ac addurnedig yr adeilad wedi bod yn dân ar groen rhywun fel Morgan Llwyd a oedd yn rhoi’r pwyslais ar grefydd y galon. Yma y mae cofeb i Elihu Yale, sylfaenydd coleg Yale yn y Taleithiau Unedig, ac a fu farw a’i gladdu yn Wrecsam yn 1721 yn ac sy’n esbonio’r ffaith i gopi o’r tŵr gael ei godi yno yn y 1920au. Yma hefyd y mae capel coffa y Ffiwsilwyr Cymreig rhywbeth dwi’n ei chael hi’n anodd iawn teimlo’n gyfforddus yn ei weld mewn eglwys Gristnogol – ond mae i’w weld yn gyffredin iawn ac mae’n rhaid nad yw’r rhan fwyaf o eglwyswyr yn gweld y broblem o gwbwl.
Fel y dywedais mae ‘na rywbeth i’w weld ym mhob twll a chornel o’r eglwys; ond i mi roedd tri pheth yn arbennig. Yn gyntaf, olion murlun o’r Farn Fawr uwchben y gangell; yn ail, ddarllenfa ar ffurf eryr yn dyddio o’r cyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd; ac yn olaf y giatiau addurnedig o flaen y cysegr.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Ydi’r blogiwr wedi mynd ar streic?