Eisteddfod 2007-08-09 (1)

Horse and Jockey, WrecsamDiwrnod arall o deithio ddydd Iau, ond y tro hwn cawsom gyfle i fynd reit i galon Wrecsam yn hytrach na dawnsio o chwmpas ei hymylon fel yr oedden ni wedi’i wneud ddydd Mawrth. Wnaethon ni ddim cychwyn yn rhyw gynnar iawn; mae ond yn iawn inni ymddwyn fel petawn ni ar ein gwyliau, er ein bod ni yn yr eisteddfod mewn gwirionedd. Unwaith eto roedd RO wrth y llyw a finnau yn ceisio deall fy ffordd o gwmpas y strydoedd er mwyn ei gynghori ar y ffordd orau i’w chymryd. I mi mae Wrecsam yn dref ddieithr; er fy mod wedi bod yno lawer gwaith nid oes unrhyw le yn aros yn y cof. I ddweud y gwir mae’r dref ei hunan wedi newid llawer dros y blynyddoedd gyda’r cyngor yn ceisio ail-ddatblygu’r lle dro ar ôl tro i wneud atynfa fydd yn cadw pobol Wrecsam a’r cylch yno i siopa ac hamddena yn hytrach na dianc dros y ffin i Gaer.

Cregyn gleision, cinio 2007-08-09Mewn rhan fechan o Wrecsam oedd heb ei ddatblygu y dechreuson ni ein hymweliad. Mewn tafarn â tho gwellt yn sefyll rhywbeth yn debyg i belican yn anialwch Stryt yr Hôb, sef yr Horse & Jockey. Roedd y wraig tu ôl i’r bar yn ddigon cyfeillgar ac fe gawsom ein tywys i’r lle yr oedden nhw’n gweini bwyd yng nghefn y tafarn. Cefais fy nghyffroi yn lân o weld fod cregyn gleision ar y fwydlen. Roedd y pryd yn iawn. Wedyn dyma ymlwybro yn bellach i lawr y stryd ac i gyfeiriad eglwys y plwyf, sef Eglwys San Silyn.

Eglwys San Silyn, Wrecsam

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

2 sylw ar Eisteddfod 2007-08-09 (1)

  • Dw i’n hoff iawn o’r Horse and Jockey – bues i ‘na gyda Philippa amser Nadolig llynedd, ac o’n i’n arfer gweithio mewn swyddfa gyferbyn â’r lle. Cofio gwylio’r bois rhoi to gwellt newydd arni yn ystod haf ‘87, cyn i mi ddianc i’r coleg.

    Mae ‘na jôc ‘ma rhywle, ond beth yw “thatcher” yn Gymraeg?

  • Emma Reese

    Dw i wedi gweld yr adeiladau ma yn Wrecsam!

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>