Eisteddfod 2007-08-07 (6)

Fel mae Lake Wobegone yn cuddio yn y plygiad yn y map gellid dweud fod Erbistog yn cuddio mewn tro yn afon Dyfrdwy. Ond roedd rhywbeth yn denu RO yno ac wrth inni droi oddi ar y ffordd fawr a mynd i lawr ac i lawr i lannau’r afon roedd dyn yn cael y teimlad na fyddai dim i’w weld. Dyna gamgymeriad. Yno ar lan y dŵr roedd tafarn y Boat ac Eglwys S Ilar. Roedd y diwrnod yn un gweddol dwym ac roedd yr afon yn pefrio yn yr haul.

Eglwys Ilar, Erbistog

Roedd RO am alw heibio i dafarn y Boat, fe ddylen i fod wedi cytuno, ond roeddwn i am droi tuag at yr Wyddgrug er mwyn dechrau coginio swper. Wrth ysgrifennu’r hanesyn hwn dwi’n sylweddoli pa mor benstiff y galla i fod ar brydiau. Ddoe bu cyfaill yn ddigon powld â dweud hynny wrthyf – roeddwn i’n teimlo nad oeddwn yn haeddu’r fath ddisgrifiad – ond wrth gofio am fy mhendantrwydd yn Erbistog dwi’n teimlo braidd yn euog fy mod wedi gofyn i RO fy amddiffyn rhag y cyhuddiad o benstiffrwydd neithiwr. Diolch iddo am wneud, ond dwi’n ofni ei bod yn rhaid imi ddatgan fy mod yn euog.

Gallen ni fod wedi treulio gweddill yr wythnos fan’ny ar lan yr afon, ond roedd dynion blinedig yn ein disgwyl. Felly yn ôl â ni i gyfeiriad yr Wyddgrug gan aros yn siop Somerfield yn Johnstown ar y ffordd i brynu rhai negeseuon. Y nos honno roeddwn i’n coginio rhywbeth cymharol syml sef Kiełbasa w sosie pomidorowym (Selsig mewn saws tomato), ond ddeis i ddim o hyd i selsig kiełbasa ac felly doedd dim amdani ond defnyddio selsi ‘cyffredin’. Roedd yn flasus iawn, ond anghofiais dynnu’r un llun!

Y noson hono y drafodaeth wedi swper oedd buddugoliaeth Tony Bianchi yng nghystadleuaeth Goffa Daniel Owen, a’r ffaith nad oedd y beirniaid wedi cytuno. Roeddwn i wedi blino gormod i boeni gormod am y ddadl, diolch byth.

Afon Dyfrdwy, Erbistog

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli di ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>