Eisteddfod 2007-08-07 (5)

Stad Ddiwydiannol WrecsamFe wnaethon ni adael safle cofeb lladdfa Gresffordd a throi tuag at safle lladdfa arall, sef Bangor-is-y-coed. Yno yn y flwyddyn 613 OC y lladdwyd 1,200 o fynachod Cymreig o’r clas Celtaidd yn y fan honno gan y Saeson yn o dan arweiniad y brenin Aethelfrith o Northumbria yn dilyn buddugoliaeth dros Bowys ym mrwydr Caer. Dwi ddim yn siŵr faint o goel y gellir ei roi ar y niferoedd ond mae’n sicr fod rhywbeth wedi digwydd oherwydd fe arhosodd yn y cof.

Erbyn heddiw mae’n rhaid croesi Ystad Ddiwydiannol Wrecsam i gyrraedd Maelor Saesneg a Bangor-is-y-coed. Gallai hynny swnio’n ddi-ramant iawn, ond mae ‘na ramant yn perthyn i’r ystad oherwydd mae gyda’r mwyaf yn y Deyrnas Gyfunol ac yn Ewrop. Fe gychwynnodd y cyfan fel datblygiad o ffatrïoedd ordnans a godwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd ond yna fe dyfodd ac fe dyfodd y datblygiadau diwydiannol yno. Mae’n werth gyrru trwy’r lle i’w weld. Ond wnaethon ni ddim aros gan ein bod am gyrraedd Maelor Saesneg.

Eglwys S Dunawd, Bangor-is-y-coedI’r sawl sy’n dwlu ar ffiniau fel fi mae Maelor Saesneg yn drysor oherwydd yn draddodiadol dyma ran o Sir y Fflint oedd wedi’i rannu oddi wrth y gweddill gan dalp go dda o Sir Ddinbych. Nid yw ein hoes weinyddol-effeithiol ni yn medru dioddef siroedd mewn mwy nag un darn, ac felly pan ffurfiwyd Clwyd yn 1974 fe unwyd Maelor Saesneg, gyda Maelog Gymraeg – sef yr ardal o gwmpas Wrecsam i greu Cyngor Dosbarth Wrecsam Maelor. Pan aed ati drachefn i ail gyflunio llywodraeth leol fe barodd yr uniad gan droi Wrecsam Maelor yn Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Ond er bod y gweinyddwyr yn hapus i dacluso rhywbeth anniben felly mae’n dda medru dweud fod ‘na ysbryd annibynnol iawn yn parhau ym Maelor Saesneg. Dwi ddim yn credu ei bod yn ormodiaith i’w ddweud y gellir teimlo’r peth wrth groesi Afon Dyfrdwy, y ffin naturiol sy’n rhannu ardal oddi wrth weddill y sir.

Pont ar Ddyfrdwy, Bangor-is-y-coedPrin eich bod wedi croesi’r afon cyn eich bod yn gadael y ffordd fawr ac yn mynd am bentref Bangor (sy’n cael ei alw’n Bangor-is-y-coed, Bangor Monachorum, ac yn Bangor-on-Dee). Wedi bod ar yr ffordd fawr brysur a thrwy’r ystad ddiwydiannol enfawr mae Bangor yn ymddangos fel werddon. Fe barcion ni ger canol y pentref y tu fas i Gapel Eglwys Bresbyteraidd Cymru a cherdded i lawr at yr afon ac eglwys y plwyf. Mae’r bont yn dyddio o tua 1660 ac erbyn hyn ond yn cario trafnidiaeth un ffordd. Ar lan yr afon ger y bont ceir Eglwys S Dunawd. Treuliasom dipyn o amser o gwmpas yr afon a’r eglwys a hi’n ddiwrnod hyfryd o haf. Mae’n werth ymweld â’r eglwys gan ei bod yn barod iawn i groesawu ymwelwyr a phererinion fel ei gilydd.

Cae rasys ceffylau Bangor-is-y-coedByddai’n dod yn amser i fynd am yr Wyddgrug cyn bo hir, ond roeddem am wneud un daith fer o gwmpas Maelor Saesneg cyn mynd am fro’r eisteddfod. Fel mae’n digwydd y man cyntaf inni ymweld ag ef yw’r rheswm fod Bangor yn enwog heddiw. Anghofiwyd y mynachod a laddwyd gan Aethelfrith a bellach cae rasio ceffylau Bangor sy’n denu’r torfeydd. (Byddai fy nhad yn falch o weld fy mod wedi gwneud pwynt o fynd i wled y cae rasus!) Arhoswyd yno am ennyd cyn teithio’n hamddenol trwy bentrefi Owyrtyn, Llannerch Banna, Hanmer ac yn ôl i Talwrn Grîn. Yno, yn Nhalaran Grîn, lle mae’r enw’r ysgol lleol, Ysgol Borderbrook, yn tystio fod y pentref reit ar y ffin â Lloegr y treuliodd R S Thomas gyfnod fel ciwrat yn y 1940au. Mae adeilad Eglwys Mair Magadlen yn dal i sefyll, ond mae bellach wedi cau fel canolfan addoli.

Eglwys Talwrn Green

Bellach roedden ni’n meddwl ein bod am fynd am adref, ond wrth droi tuag at gyfeiriad Wrecsam a Sir y Fflint fe gawsom ein hunain mewn man hudolus ar lan afon Dyfrdwy, sef Erbistog. Roedd yn rhaid aros yno am orig.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (Dim pleidlais eto)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

2 sylw ar Eisteddfod 2007-08-07 (5)

  • Fel y gweli di fe wnes i ‘osgoi’ Tafarn y Cwch, a dwi’n ofni na fues i yn Salford chwaith. Ond fe fues i yn y Waun wrth ddychwelyd ddydd Sul. Bydda i’n adrodd hanes hynny yn y man.

  • Os cei di gyfle eto, mae rhaid ymweld â Thafarn y Cwch yn Erbistog, lawr wrth yr afon. Dim ond unwaith dw i wedi bod ‘na, ond mae’r bwyd yn fendigedig, a’r cwrw yn ffein hefyd.

    Roedd un arall o’m hen-deidiau, Grandad Henshaw, yn gweithio fel ffwtman ar stad yn Erbistog pan cwrddodd e â’i briod.

    Tybed, wyt ti’n mynd i roi cyfle i fi sôn am y pedwerydd hen foi? Est ti ddim i Salford, naddo? ;-)

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>