Fore Sadwrn fe es i i’r ŵyl lyfrau unwaith eto. Yn y bore roedd dau yn siarad – Dylan Iorwerth yn sôn am lyfr Islwyn Ffowc Elis, Wythnos yng Nghymru Fydd, ac Angharad Tomos yn cael ei chyfweld am ei gwaith gan DML.
Dylan Iorwerth oedd yn agor y bore gyda sgwrs ddifyr iawn am Wythnos [...]
Dwi’n siŵr bod rhai yn ei chael hi’n anodd i gredu ei bod hi’n bosib i unigolyn gasglu cymaint o lyfrau i un man a bod y ford yn ddigon cryf i’w dal nhw. Ond gallaf dystio â’m llygaid fy hun fod yr holl lyfrau yma wedi gorffwys ar y ford goffi. Roedd nifer ohonyn [...]
Dydd Sadwrn a diwrnod olaf yr eisteddfod. Ar ddechrau’r wythnos roedd y diwrnod hwn yn ymddangos yn bell i ffwrdd, ond mae wedi dod. Roedd yn ben blwydd arna i, ond doeddwn i ddim wedi gwneud rhyw lawer o stŵr am y pethau rhag ofn iddo ymdebygu i fegeran. Fe gofiodd ambell un a diolch [...]
Heno, wrth basio tafarn Harleys ar y ffordd adref o wrando Bethan Gwanas yn siarad yng Ngŵyl Lyfrau Aberystwyth yng nghanolfan Morlan, fe glywais y gân Girls just wanna to have fun gan Cindy Lauper yn cael ei chwarae’n uchel. Roedd y gân yn crynhoi thema’r noson yn berffaith. Prif neges Bethan Gwanas oedd ei [...]
Heddiw (28 Medi 2007, sef heddiw go iawn!) am y tro cyntaf cefais gyfle i ymweld â siop mwyaf newydd a mwyaf egsotig Aberystwyth, sef y Polish Delicatessen. Dwi wedi adrodd yr hanes amdana i yn crwydro Wrecsam yn chwilio am kiełbasa, bellach mae ‘na siop yn Aberystwyth lle mae’n bosib imi brynu’r selsig yn [...]
Eglwys Gadeiriol Caer
(Dim pleidlais eto)
Ddydd Gwener cefais fy hun yn gwneud swydd ryfedd, sef dangos gogoniannau dinas Caer i fy nghyfeillion o Fflandrys. Roedd hi’n dda iawn i gael eu cwmni, ond roedden nhw am weld ychdyig yn fwy na dim ond maes yr eisteddfod felly fe gytunais i fynd gyda nhw i Gaer. Roedd hyn yn golygu defnyddio [...]
Nos Iau oedd uchafbwynt cogyddol wythnos yr eisteddfod i mi. Ar gyfer heno roeddwn i’n coginio saig genedlaethol Gwlad Pwyl, sef Bigos, neu Stiw’r heliwr. Yn sylfaenol mae’r pryd yn cynnwys cymysgedd o gig a bresych, ond wedyn mae’r amrywiaethau’n fawr iawn o un lle i’r llall. Roeddwn i’n dilyn rysáit oedd yn defnyddio zauerkraut [...]
Roedd teithio ffiniau siroedd Fflint a Wrecsam yn agoriad llygad oherwydd bod yr ardal mor wledig. O leia dyna’r argraff a gefais i wrth deithio yn ôl i gyfeiriad yr Wyddgrug o Goed-poeth. Wedi troi oddi ar yr A525 a mynd trwy Goed-poeth yr oedd yn rhaid i mi gael mynd trwy Frymbo, man geni’r [...]
Wedi cael y kiełbasa doedd dim byd yn fy mhoeni mwyach, roeddwn i’n medru ymlacio a mwynhau fy hun. Roeddwn i wedi bod yn poeni ers dechrau’r wythnos na fyddwn yn llwyddo i ddod o hyd i’r kiełbasa oedd ei angen ar gyfer creu’r profiad Pwylaidd awthentig ar gyfer fy nghyd-eisteddfodwyr. Ond roedd hynny y [...]
Roedd sawl rheswm dros fynd i Wrecsam ddydd Iau, ond efallai’r un oedd yn pwyso fwyaf arna i oedd yr angen i ddod o hyd i selsig kiełbasa ar gyfer y stiw Bigos roeddwn i wedi bod yn ei goginio ers y noson cynt. Nid yw’n bosib gwneud Bigos heb kiełbasa, ond er chwilio a [...]
Ble mae rhywun yn dechrau ar y gwaith o ddisgrifio Eglwys San Silyn, Wrecsam. Mae’r adeilad yn un rhyfeddol o ran maint am eglwys plwyf ac o ran cyfoeth y cynnwys. Ar bob llaw mae rhyw drysor neu fanylyn sy’n taro dyn. Fel mae’n digwydd llosgwyd yr adeilad yn 1463 ac fe ailadeiladwyd yr eglwys [...]
Mae hi wastad yn gyffrous pan fo blog newydd yn ymddangos. Heno fe gefais wybod am flog newydd diddorol iawn, sef Fel y moroedd, blog Emma Reese. Dwi’n falch iawn fod Emma wedi penderfynu cadw blog. Un nodwedd arbennig am lawer o’r bobol dwi’n eu hadnabod sy’n cadw blogiau Cymraeg yw eu bod yn dod [...]
Diwrnod arall o deithio ddydd Iau, ond y tro hwn cawsom gyfle i fynd reit i galon Wrecsam yn hytrach na dawnsio o chwmpas ei hymylon fel yr oedden ni wedi’i wneud ddydd Mawrth. Wnaethon ni ddim cychwyn yn rhyw gynnar iawn; mae ond yn iawn inni ymddwyn fel petawn ni ar ein gwyliau, er [...]
Doedd dydd Mercher ddim yn ddiwrnod cyffrous iawn – dim teithio o gwmpas, ond yn hytrach mynd i faes yr eisteddfod. Y prif reswm am wneud hynny oedd i gwrdd gyda’r cyfeillion o Fflandrys, neu’n benodol i gwrdd gyda Lisebeth. Mae Liesbeth yn gweithio fel anaesthetydd yn Ysbty Prifysgol Leuven (Universitair Ziekenhuis Leuven) ond yn [...]
Rhag ofn bod rhywun am ddilyn yn ôl ein troed, dyma’r daith y buon ni arni ddydd Mawrth yr Eisteddfod.
(Dim pleidlais eto)
Fel mae Lake Wobegone yn cuddio yn y plygiad yn y map gellid dweud fod Erbistog yn cuddio mewn tro yn afon Dyfrdwy. Ond roedd rhywbeth yn denu RO yno ac wrth inni droi oddi ar y ffordd fawr a mynd i lawr ac i lawr i lannau’r afon roedd dyn yn cael y teimlad [...]
Fe wnaethon ni adael safle cofeb lladdfa Gresffordd a throi tuag at safle lladdfa arall, sef Bangor-is-y-coed. Yno yn y flwyddyn 613 OC y lladdwyd 1,200 o fynachod Cymreig o’r clas Celtaidd yn y fan honno gan y Saeson yn o dan arweiniad y brenin Aethelfrith o Northumbria yn dilyn buddugoliaeth dros Bowys ym mrwydr [...]
Er fy mod i newydd ddod yn ôl o fy ngwyliau dwi’n sylweddoli nad ydw i wedi adrodd hanes yr eisteddfod yn llawn eto. Wrth edrych ar ble roeddwn i wedi cyrraedd dwi’n synnu at faint o bethau y llwyddodd RO a minnau eu gwneud ar y dydd Mawrth. Wedi bod ym Mhenarlâg dyma droi [...]
Dwi’n ôl o fy ngwyliau ers wythnos, ond mae hi wedi bod gyda’r wythnos brysuraf dwi’n ei chofio o ran bod â dyletswyddau i’w gwneud. Ond o’r diwedd heno mae gen i ryw bum munud yn dilyn cyfarfod i nodi fy mod wedi cyrraedd adref yn ddiogel a bod gennyf ddigonedd o hanesion i’w [...]