Eisteddfod 2007-08-07 (3)

Beddrod W E Gladstone, Eglwys S Deiniol, PenarlâgOs nad ydych chi’n rhy hoff o W E Gladstone fy nghyngor i chi yw osgoi Penarlâg. Fel y mae Disneyland yn ddathliad o Mici’r Llygoden, mae Penarlâg yn ddathliad o William Ewart Gladstone a’i deulu. Mae popeth yn Gladstone hwn neu’n Gladstone llall. Dwi ddim yn credu y buasai Gladstone wedi canmol gormod ar y cinio yn y Blue Bell. Ond dim ond rhywbeth i’n cadw ni i fynd nes swper oedd e fod, a rhoi digon o nerth inni ymweld ag Eglwys S Deiniol yn y pentref a Llyfrgell S Deiniol, llyfrgell goffa Gladstone. Teulu Gladstone wnaeth adfer yr eglwys wedi iddi losgi’n ulw bron yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a theulu a chenedl ddiolchgar wnaeth godi Llyfrgell S Deiniol fel coffâd iddo. Mae’n syniad gwych. Yno mae ei lyfrgell yn cael ei chadw ac mae croeso i ddarllenwyr ddod ag aros yno i astudio ac i fwynhau eu hunain. Bues i yno ganol y 1990au ar gwrs wythnos o dan y teitl, Greek in a week wedi’i ddysgu gan John H Dobson, awdur Learn New Testament Greek a Learn Biblical Hebrew. Roedd hi’n wythnos wych o ddysgu dwys ac roeddwn i’n medru darllen y Testament Newydd mewn Groeg gyda pheth cymorth wedi’r wythnos, ond mae’r Groeg wedi hen ddiflannu bellach ond dwi’n dal i fod ag atgofion melys iawn o’r wythnos!

Cofeb Gladstone, Llyfrgell Deiniol, Penarlâg

Rhagor o luniau Eglwys S Deiniol, Penarlâg.

Rhagor o luniau o Lyfrgell Deiniol, Penarlâg.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>