Eisteddfod 2007-08-07 (2)

Canolfan Hamdden Glannau DyfrdwyGallai rhywun dybio taw dyna fyddai uchafbwynt ein hymweliad â’n hetifeddiaeth ddiwydiannol ac ôl-ddiwydiannol. Ond roedd gwell i ddod sef pentrefi Sandycroft, Queensferry (Y Fferi Isaf), Mancot, Shotton a Chei Connah. Creadigaethau digon diweddar yw’r llefydd hyn, gyda nifer ohonynt wedi’u codi adeg y Rhyfel Mawr fel anheddau ar gyfer gweithwyr yn y ffatrïoedd oedd yn cyflenwi arfau. Dyna oedd hanes Mancot, pentref a gynlluniwyd gan adran dai y Weinyddiaeth Arfau, Ministry of Munitions, rhwng 1916-1918. Ac o’r herwydd gwelir eglwysi a chapeli newydd dros y lle i gyd. Roedd Eglwys S Ethelwold yn edrych yn ddiddorol iawn ar ochr y ffordd, ond doedd dim amser i ymweld â hi. Ym Mancot roedd yr Eglwys Bresbyteraidd yn drawiadol iawn. Gyda’r eglwysi ceir creadigaethau sy’n dystion i ddiddordebau cyfoes lle mae chwaraeon wedi troi yn grefydd – Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. (Gyda llaw un o Fancot oedd y chwaraewr pêl-droed rhyngwladol, Gary Speed, un o fân-dduwiau’r grefydd newydd.)

Shotton Balti RajSefydlu gwaith dur John Summers ddiwedd yn bedwaredd ganrif ar bymtheg a roes fodolaeth i dref Shotton, ar un adeg roedd y gweithfeydd dur yma yn cyflogi rhyw 13,000, ond bellach dim ond ychydig gannoedd sydd yno yn creu “cellular accomodation”. Ond nid y cyswllt diwydiannol yn unig oedd wedi’n denu ni yma, roedd gennym reswm arall dros am ymweld â’r lle, sef y cysylltiad gyda’r gŵr a ddisgrifiwyd fel Prif weinidog answyddogol Cymru, sef Huw T Edwards, testun cofiant difyr gan Gwyn Jenkins a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Roedd Huw T Edwards yn gweithio fel swyddog undeb llawn amser i’r T&GWU ac fe welsom ni swyddfeydd yr undeb wrth yrru heibio.

SealandOnd roeddwn am fynd un cam yn bellach. Roedd ‘na un man oedd yn fy nenu nad oeddwn erioed wedi aros ynddo, sef Sealand. Mae Sealand fel rhyw diriogaeth futholegol, rhyw Gantre’r Gwaelod nad yw wedi diflannu. Sealand yw’r darn o Gymru sydd yn gorwedd y tu draw i Afon Dyfrdwy. Roedd y plwyf yn arfer bod yr ochr hon i’r afon, ond yn y ddeunawfed ganrif er mwyn ceisio lliniaru ar effaith siltio ar borthladd Caer ceisiwyd newid llwybr yr afon a chreu sianel newydd i’w llif, ond mae’r ffin â Lloegr yn dal i ddilyn yr hen lwybr. Does dim rhyw lawer iawn i’w weld yno – gweddillion y gwaith dur, gwersyll milwrol sydd wedi’i gau ac yn ganolfan DARA, ac hen eglwys plwyf Sealand, sydd bellach yn rhan o blwyf rheithorol Penarlâg. Codwyd Eglwys S Bartholomeus yn 1867 ac felly’n dathlu ei phen blwydd yn 140 oed eleni. Roedd yr eglwys ar glo wrth gwrs, ond wrth inni sbecian o gwmpas yr adeilad dyma rhywun yn gyrru heibio mewn car ac yn aros. Roedd yn ŵr i un o’r wardeiniaid a thrwy lwc roedd ganddo allwedd i’r eglwys yn ei boced ac fe gawsom fynd i mewn. RO wnaeth y rhan fwyaf o’r siarad gydag ef, a’r unig beth dwi’n cofio yw’r dyn yn dweud yn bendant wrtho “We’re in Wales and not England you know!”

Eglwys S Bartholomeus, Sealand

Roedd hi’n tynnu am amser cinio bellach a dyma ni’n anelu am Benarlâg.

Rhagor o luniau o eglwys Sealand.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 2.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>