Eisteddfod 2007-08-07 (1)

SaltneyOs na chefais fy nymuniad ddydd Sul roedd hi’n fater gwahanol ddydd Mawrth. Yn hytrach na mynd i’r eisteddfod roedd RO a minnau am fynd i grwydro ychydig yn Sir y Fflint a Sir Wrecsam. Nid fy mwriad i oedd gorfodi RO i fynd â mi i weld ein hetifeddiaeth, ond roeddwn i’n credu fy mod yn medru cynnig taith ddifyr a fyddai’n cwmpasu nifer o wahanol elfennau diddorol. Fel rhan o’r pecyn cyfan roeddwn i’n cael mynd i Shotton, Mancot a Glannau Dyfrdwy a dwi’n ddiolchgar i’m cyfaill am hynny. Dwi’n hoff o’r llefydd hyn am eu bod nhw’n wahanol, am fod pobol yn dueddol iawn o’u hanghofio a’u hanwybyddu, ond yn fwy na dim am eu bod ar y ffin. Ers yn blentyn mae ffiniau wedi’u fy nifyrru – ffiniau ieithyddol a ffiniau daearyddol yn benodol. Cefais fy magu ym Mynachlog-ddu yng ngogledd Sir Benfro ond ar y ffin gyda Sir Gaerfyrddin ac nid nepell o’r Landsker. Wrth fynd lawr i Arberth, lle’r oedd syrjeri’r doctor, roeddem yn croesi’r ffin rhwng y ddwy sir oedd yn igamogamu trwy bentrefi Clunderwen, Llandysilio a’r Grondre ac wedyn yn croesi’r ffin ieithyddol cyn cyrraedd Arberth ei hun. Fel plentyn roeddwn i’n ceisio dysgu pryd yn union yr oeddem yn croesi’r ffin i mewn i Sir Gaerfyrddin ac yn ôl i Sir Benfro.

Ffatri Airbus, BrychdynEfallai nad yw’n gymaint o syndod felly fod yr ardal ffiniol yma o gwmpas Afon Dyfrdwy yn llawn rhamant i mi. Rydw i’n gyfarwydd â llawer o’r enwau ond yn anaml iawn y cyfyd y cyfle i ymweld â’r ardal, felly roedd heddiw’n gyfle nad oeddwn am ei golli. Felly i ffwrdd â ni tuag at Lannau Dyfrdwy trwy Mynydd Isa a Bwcle. Wedyn dyma droi tuag at Frychdyn a’r ffatri aerofod enfawr cwmni Airbus S.A.S. Yno mae dros 5,000 o bobol yn gweithio yn bennaf ar y gwaith o adeiladu adenydd ar gyfer holl awyrennau Airbus. Mae’r ffatri i’w gweld am filltiroedd ac mae gyrru o gwmpas y safle yn brofiad rhyfeddol. Mae’n fwy o faint sbel na llawer pentref a thref fechan, ac mae’n gorwedd bron â bod ar y ffin. Ar un ochr iddi mae pentref Brychdyn ei hun, nid nepell mae Bretton ac yna yr ochr arall mae Saltney, un o faestrefi Caer mewn gwirionedd, ond ar dir a daear Cymru! Roedd hi’n drawiadol hyd yn oed mor agos â hyn at y ffin roedd ‘na lawer o Gymraeg i’w weld hyd yn oed os nad oedd dim i’w glywed. Cefais i syndod o weld hysbysfwrdd y cyngor bro lleol yn dwyn arwydd gyda’r Gymraeg yn flaenaf “Cyngor Cymuned Brychdyn a Bretton” – sut ymateb fyddai gan rai aelodau seneddol Llafur o Gymru o weld arwydd o’r fath, tybed?

Afon Dyfrdwy ger y Fferi UchafWedi pasio’r ffatri a chyn mynd i mewn i Saltney go iawn dyma droi oddi ar yr heol fawr ac i lawr hyd at lannau Afon Dyfrdwy. Doedd dim ohoni i’w gweld o’r ffordd. Ond gyda map yn fy llawn roeddwn yn gwybod taw’r cyfan yr oedd angen inni ei wneud oedd dringo’r banc a byddai’r afon yno. A dyna a wnaethon ni ein dau. Parcio’r car wrth y Fferi Uchaf, y fferi agosaf at y bont mae’n debyg, a dringo dros y gamfa. Roedd yr afon i’w gweld yn blaen, ac roedd ffatri Airbus yno hefyd yn cadw cwmni i ni – cyfuniad rhyfedd o fyd natur (o dan reolaeth dyn) a diwydiant sydd i’w weld yn gyffredin o gwmpas Cymru, fel ym Mhwll Cynffig ger Port Talbot lle roedden ni wedi ymweld ag ef flwyddyn yn ôl adeg Eisteddfod Abertawe 2006.

Rhagor o luniau o ffatri Airbus, Brychdyn.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 1.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Eisteddfod 2007-08-07 (1)

  • Yn amal iawn mae’r gogledd-ddwyrain yn cael ei anghofio. Yr oeddwn i’n byw fy mlynyddoedd cynnar yn Yr Wyddgrug, a bellach yn byw yn Abergele, ond efo teulu a ffrindiau ar wasgar ar hyd yr ardal.

    Dwi o hyd yn pwysleisio’r ffaith fy mod o’r gogledd-ddwyrain, gan fod pawb yn cymyd yn ganiataol fod dwad o’r gogledd yn golygu rhywle yng Ngwynedd. Mae’r meddylfryd yma yn gwadu presenoldeb yn bobol i’r dwyrain.

    Bellach mae rhan fawr o’r ardal yn cael eu trin fel cyffiniau dinas Gaer – pobol yn teithio yn ol ac ymlaen i’w gwaith etc.., ond er fod ne ffin ddeinamig iawn rhwng y Saeson a’r Cymry, mae’r Gymraeg yn dal i fodoli mewn gylchoedd preifat.

    Mae nifer yn deud fod pobol o’r ardal yn siarad fel petaen o Lerpwl. Dwi’n hoff o bwysleisio fod Lerpwl wedi dwyn yr acen o’r Cymry – nid dinas Seisnig mo Lerpwl, ond un y Cymry, Gwydelod a’r Manawyr.

    Y rhan yma o Gymru yw’r lle union ble wnaeth meddianwyr tiroedd Prydain hollti’r cysyltiad rhwng y Cymry a Gwyr y Gogledd. Trwy gwahanu’r Brythoniaid, mi wnaethant gwanhau eu gelyn. Er fod hyn wedi digwydd, mae tystiolaeth o’r Gymraeg yn ennill tir yn ol yn y llefydd yma. Enghraifft o hyn yw Whitford, sef Chwitffordd yn y Gymraeg. Ceir nifer o rai eraill hefyd.

    Cymuned diddorol arall yw Rhosllannerchrugog ger Wrecsam. Ynys o diwylliant a’r iaith Gymraeg mewn canran uchel. Dwi’m yn meddwl fod hi mor uchel rwan, ond Cymraeg oedd iaith cymunedol dros 50% tan y 30 mlynedd ola ma, a hynny am bentref fawr reit ar y ffin.

    O.N. Mae Bwcle yn enghraifft o bolisi cynllunio’r cyngor wedi mynd i’r chwith. Mae poblogaeth yn lle yn uwch na’r Wyddgrug gyda’r ’sprawl’ fawr fewn i Mynydd Isa.

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>