Nid wyf yn un sy’n mynd i faes yr eisteddfod yn aml iawn; i ddweud y gwir mae’n well gen i brofi’r peth yn ail-law trwy raglenni teledu a radio, a thrwy adroddiadau manwl cyfeillion sy’n mwynhau’r profiad o grwydro’r maes. Ond roedd eleni ychydig yn wahanol gan fod cyfeillion yr oeddwn wedi’u cyfarfod yn Fflandrys dros y Nadolig yn dod i Gymru am wythnos ac yn bwriadu ymweld â’r eisteddfod yn gyson. Roeddwn i’n teimlo ei bod yn ddyletswydd arna i i’w tywys o gwmpas y maes ac esbonio beth oedd yn digwydd a phwy oedd y bobol i’w cyfarfod. Roedd pedwar ohonyn nhw draw, a’r pedwar yn genedlaetholwyr pybyr. I ddweud y gwir roedd eu tanbeidrwydd yn gwneud imi deimlo yn annigonol. Ond fel Cymro dwi wedi hen arfer â theimlo’n annigonol!
Petawn i’n fwy egnïol ac yn fwy tanbaid yn fy nghariad tuag at y maes eisteddfodol mae’n siŵr y buaswn wedi cerdded yno o’r tŷ yn gymharol ddidrafferth. Ond yn eu caredigrwydd roedd trethdalwyr Sir y Fflint wedi bod mor hael â darparu gwasanaeth bws gwennol o ganol yr Wyddgrug i’r maes ac yn gynnar ar fore Llun dyna lle’r oeddwn i yn disgwyl ar y bws i fynd i’r maes. Roedd y bws cyntaf wedi gadael cyn imi gyrraedd ac felly roedd yn rhaid aros am ryw chwarter awr am y bws nesaf. Wrth eistedd yno yn disgwyl i’r bws lenwi a gwrando ar sylwadau a sgyrisau yr eisteddfodwyr pybyr oedd yn prysur gymryd y seddi fe wnes i sylweddoli pam nad oeddwn i’n dwlu cymaint â hynny ar ein sefydliad cenedlaethol. Ond “close your eyes and think of Wales” oedd raid.
Wrth gwrs roedd y diwrnod yn llawer gwell nag oeddwn i wedi’i ddisgwyl: y tywydd yn braf, hen gyfeillion a chydnabod yn serchog, a’r Fflandryswyr yn hyfryd o barod i amsugno pob gwybodaeth am Gymru, y Gymraeg a’r eisteddfod. Roeddwn wrth fy modd. Hedfanodd y diwrnod i ddweud y gwir ac roedd hi’n amser neidio ar y bws gwennol unwaith eto a mynd yn ôl i ganol yr Wyddgrug lle’r oeddwn heno yn mynd i goginio porc mewn mêl. Doedd y rysáit ddim yn un draddodiadol Bwylaidd mewn gwirionedd, ond yn flasus dros ben – Porc mewn mêl a mwstard gyda thatws a saws seidr. Wedi eisteddfota trwy’r dydd a choginio gyda’r nos roeddwn i’n barod am wely cynnar er mwyn bod yn barod i deithio’n bellach yn Sir y Fflint a Sir Wrecsam ddydd Mawrth.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael