Eisteddfod 2007-08-05 (4)

CaerwysWedi hamddena o gwmpas Maes-glas am orig roedd yn rhaid dechrau meddwl am fynd yn ôl i’r Wyddgrug. Ond roedd ‘na un man arall yr oeddem am alw heibio ar ein taith, sef Caerwys. Roedd ‘na sawl rheswm dros alw yno. Yn y lle cyntaf y mae’n dref fechan ddeniadol a sefydlwyd drwy siarter gan frenin Lloegr yn 1290 ac yn rhan o’r ymsefydlu bwriadol gan Saeson yng Nghymru yn dilyn y goncwest. Ond nid tref garsiwn oedd hi er gwaethaf hynny, ond yn hytrach lle ar gyfer marchnad, ac mae i’r sgwâr braf (braf iawn pan fo’r haul yn disgleirio) ryw awyrgylch Ffrengig. Mae’r ail reswm dros ymweld yn un Cymreig iawn, sef cysylltiad y dref â’r eisteddfod. Yn yr unfed ganrif ar bymtheg cynhaliwyd dau gyfarfod yma sy’n cael eu galw’n eisteddfodau. Yn 1523 a 1567 daeth beirdd a cherddorion ynghyd yma er mwyn llunio rheolau cerdd dant a cherdd dafod ac er mwyn rheoli’r gyfundrefn farddol, sef y sustem o feirdd yn cael eu hyfforddi fel prentisiaid nes cyrraedd statws proffesiynol er mwyn arfer eu crefft. Ond mewn gwirionedd yn hytrach na rheoli’r gyfundrefn honno ystyrir taw eisteddfod Caerwys 1567 oedd ei diwedd. Cynhaliwyd y sustem honno trwy dderbyn nawdd tywysogion, gwŷr crefydd, ac uchelwyr dros y blynyddoedd, ond bellach roedd yn rhaid i feirdd hyd yn oed wynebu realiti economaidd a gwleidyddol a chydnabod fod y gymdeithas oedd wedi creu a chynnal y galw am wasanaeth beirdd proffesiynol yn diflannu. Ar y sgwâr saif coeden yn gofeb ar gyfer nifer o bethau ac yn eu plith mae’n nodi taw Caerwys yw “cartref yr eisteddfod”.

BarszczBellach roedd hi’n amser troi yn ôl am yr Wyddgrug a dechrau paratoi ar gyfer swper. Wedi cinio canol dydd roeddwn i wedi cynllunio heno i gael saig ddi-gig, sef cawl betys neu barszcz. Fel arfer cysylltir y cawl hwn gyda Rwsia neu’r Wcráin, ond mae’n rhan cyn bwysiced o dreftadaeth coginio Gwlad Pwyl. Roeddwn i wedi bod yn poeni ychydig am beth fyddai ymateb pobol i’r cawl. Roedd un neu ddau wedi edrych braidd yn sgeptigol pan wnes i esbonio taw cawl betys oedd ar y fwydlen. Ond dwi’n falch o gael dweud i’r peth weithio’n dda iawn. Roeddwn yn hapus iawn gyda’r canlyniad, ac o weld sut roedd pawb arall wedi ymateb doedd dim gofid gen i o gwbl. Ychwanegwyd at flas y cawl wrth i bawb wylio’r gymanfa ganu o’r eisteddfod ar y teledu – profiad newydd oherwydd tan llynedd roedd y gymanfa yn cael ei chynnal ar y nos Sul olaf, ac yn cael ei gwylio wedi cyrraedd adref o’r eisteddfod.

Diwrnod da ym mhob ffordd, a sail ar gyfer mentro ar y ‘maes’ yn y bore.

Lluniau’r diwrnod.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (1 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>