Ein taith
Rydyn ni wedi bod yn dod i’r eisteddfod gyda’n gilydd ers blynyddoedd bellach fel ein bod wedi datblygu ein traddodiadau ein hunain. Un traddodiad yw ein bod yn mynd am daith o gwmpas y wlad yn dilyn gwrando ar y gwasanaeth o bafiliwn yr Eisteddfod ar y teledu neu’r radio. Doedd eleni ddim yn eithriad. Y Parchg Elfed ap Nefydd Roberts oedd yn arwain yr oedfa o’r eisteddfod a’i thema oedd dŵr yn dod â bywyd. Efallai fod yn neges ychydig yn rhy soffistigedig, yn ceisio ychydig bach yn rhy galed, ond roedd yn berthnasol iawn i Sir y Fflint gyda Ffynnon Gwenfrewi yn ei chanol yn Nhreffynnon.
Ond cyn anelu am Dreffynnon yr oedd gennym ni un lle arall i alw ynddo, sef y ffermdy yn Nercwys lle y ganed mam-gu (ynteu nain) DML. Er ei fod yntau yn un o blant Dyffryn Banwy roedd un ochr y teulu yn dod o Sir y Fflint. Fel mae’n digwydd roedd DML wedi sôn am y peth rai wythnosau cyn yr eisteddfod ac roeddwn i wedi mynd ati i chwilio am leoliad y fferm, sef Pen-y-bryn yn Nercwys, ond sydd bellach wedi troi yn Top of the Hill. Mae Nercwys yn agos at Yr Wyddgrug ac o fewn munudau roeddem ni’n sefyll ar glos Top of the Hill ac yn siarad gyda pherthynas i DML, sef Bill Piercy. Roedd yr olygfa o’r fferm yn wych ac roedd Bill yn falch iawn o’n gweld. Ar ddiwedd yr wythnos dywedodd DML taw dyma oedd y peth gorau a ddigwyddodd trwy’r wythnos; dwi mor falch felly ein bod wedi mynd i’r drafferth o wneud hyn.
Wedyn fe aethon ni yn ein holau i’r Wyddgrug ac anelu am y gogledd ac at Dreffynnon. Ond wrth deithio yno roedd yn rhaid inni fynd drwy Licswm. Yno saif Capel y Berthen, achos hynaf y Methodistiaid Calfinaidd yn Sir y Fflint ac roedd yn rhaid galw heibio i hwnnw hefyd er mwyn RO sy’n driw iawn i’w etifeddiaeth anghydffurfiol. Roedd yr achos gwreiddiol wedi’i sefydlu yn 1776 gan John a Mary Owen rhyw hanner milltir i’r gogledd o’r capel presennol. Tu fas i’r capel roedd ‘na gofeb i John Owen fel sylfaenydd yr achos ac hefyd i Williams Llwyd a oedd yn gyfrifol am sefydlu’r achos Methodist Calfinaidd cyntaf yn Lerpwl, neu Liverpool, fel roedd y gofeb yn ei ddweud. Wedi ymweliad â’r fynwent (gweithred de rigeur i rai o’n plith fe aethon ni yn ein blaenau i Dreffynnon, gan alw heibio i’r Berthen ei hun i weld y gofeb yno i sefydlu’r achos.


(2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 4.50 allan o 5)![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael