Gyda phawb yn sôn am Hedd Wyn heddiw naw deg mynledd wedi iddo gael ei ladd ar Gefn Pilkem, Fflandrys yn ystod brwydyr Passendale 31 Gorffennaf 2007. Dyma lun a dynnais i allan o ffenest car o’i gofeb yn Nhrawsfynydd. Oddi tano mae ‘na lun arall ohonof fi yn sefyll wrth ei fedd yn Fflandrys a dynnwyd pan fues i a rhai cyfeillion ar ymweliad â Fflandrys ym Mai 2005.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Dwi’n poeni braidd am yr Ysgwrn. Bum yno ddydd Llun ac roedd Gerald Wms, sydd mewn gwth o oedran bellach yn clymu rhaff i fynd ar ystol i drwsio’r to. Roedd hyn yn ddarlun trist o un o brif drysorau ein cenedl. Gresyn na fyddai modd cael arian i’w helpu. Yn ol a ddeallaf does dim pres o’r Cynulliad, nac o’r Loteri chwaith gan fod y ty mewn dwylo preifat.
Diolch am y nodyn Ceri wyn jones. Dwi’n credu fod y ffilm Hedd Wyn yn wych; y ffilm orau o Gymru erioed. Mae’n ffilm sy’n wirioneddol Gymreig – gallai neb arall fod wedi ei chreu – ac eto mae’r neges yn un sy’n siarad gyda phawb dros y byd i gyd. Mae’n gret cael nodyn oddi wrth rhywun sy’n fab i rywun a oedd yn canu mewn ffilm gafodd ei henwebu ar gyfer Oscar!
nodyn bach sydun i ddwenud fy mod yn mwynhau darllen am hedd wyn ac yn enwedig gwylior ffilm!!! maen ddiddorol iawn ac hefyd mew fy nhad yn canu yn y ffilm ei enw ydi llion wyn jones. diolch am eich amser a gobeithio hwyrach cawn ni ffilm mwy modern o hedd wyn un diwrnod diolch eto ceri wyn xx
Diolch am y dolen, Dogfael. Mae hynny yn beth gwych yn wir.
Beth am ddyddiadur John ar y we – baset yn hoffi ei gynnwys fel dolen tybed Dogafel? Hefyd beth am gefnogi’r rali Newid Hinsawdd yng Ngaherdydd ar fedi 8fed i groeswu’r cerddwyr i Gymru?
Dwi’n ofni nad ydw i wedi bod yn yr Ysgwrn eto. Dim ond unwaith dwi wedi bod heibio ond doedd neb adref ar y pryd. Dwi’n gwybod dy fod yn byw yn bell o Gymru ac felly yn methu gweld y peth ond roedd rhywbeth difyr iawn ar y newyddion heddiw am wraig oedd yn cofio Hedd Wyn ac a welodd y gadair yn dod i’r Ysgwrn pan roedd hi’n ferch – mae hi’n gan mlwydd oed eleni. Mae hynny yn beth gwych.
Est ti i’w dŷ o (Yr Ysgwrn)? Mi aethon ni yno a chwrdd a’i nai o a gweld y ‘Cadair Du’.