Dim glaw yn Aberystwyth

Roedd heddiw’n ddiwrnod braf yn Aberystwyth a dim sôn am law. Felly wedi cinio a gwasanaeth yr hwyr fe fues i allan am dro ar y prom yn tynnu lluniau a gwneud fideos. Roedd yr Hen Goleg yn edrych yn arbennig o ogoneddus yn yr haul ac roedd y goleuni yn gwneud i garreg yr adeilad befrio. Roedd pobol yn cerdded ar y prom yn hamddenol ac yn mwynhau’r diwrnod braf. Dwi’n gobeithio y bydd hi’n para’n sych o leiaf dros gyfnod yr eisteddfod a’m harhosiad yn yr Wyddgrug.

Rhagor o luniau o Aberystwyth yn yr haul.

1 seren2 seren3 seren4 seren5 seren (2 yn pleidleisio, cyfartaledd: 2.00 allan o 5)
Rhannu hyn
[Bloglines] [BlogMarks] [del.icio.us] [Digg] [Facebook] [Google] [Hugg] [MySpace] [Reddit] [Slashdot] [StumbleUpon] [Technorati] [Twitter] [Windows Live] [Yahoo!] [Email]

1 sylw ar Dim glaw yn Aberystwyth

  • Annette Strauch

    Dwi ddim yn hoffi’r glaw yng Nghymru trwy’r amser bron. Es i Aberystwyth ar ddydd Sul. Mi oedd yr haul allan am newid.
    Hwyl, Annette

Gwneud sylw

 

 

 

Gelli ddefnyddio'r tagiau HTML hyn

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>