Mae’n rhaid fy mod i’n teimlo’n well gan fy mod wedi gweld rhywbeth heddiw a wnaeth fy nghythruddo i’r fath raddau fel fy mod wedi anghofio am fy annwyd. Wedi tri diwrnod yn y gwely yn yfed fy ‘Lemsip’ generig o Superdrug a lemwn a mêl mewn dŵr poeth fe wnes fentro mas i’r byd mawr ac i’r gwaith. Erbyn amser cinio roeddwn i bron ag ildio, ond dyma gadw i fynd tan ddiwedd y dydd. Roeddwn i’n teimlo braidd yn wan, ond wrth gerdded yn ôl i Blas-yn-Dogfael dyma fi’n gweld rhywbeth ar y stryd a wnaeth imi sylweddoli fod ‘na bethau pwysicach i boeni amdanynt na’m hannwyd i. Roedd rhywun wedi gosod côn traffig yno er mwyn cadw lle iddo’i hun, fel petai’n berchennog ar y stryd yn ogystal â’r tŷ. Dim ond pan fydd y stryd tu fas i dŷ ar weithredoedd y tŷ y byddai’n fodlon derbyn gweithred o’r fath. Efallai y buaswn i’n fodlon derbyn cynllun parcio preswylwyr hefyd ar bins. Pobl yn gosod gwrthrychau ar y stryd y tu fas i’w tai ynghyd â charfannau ar yr ffyrdd yng ngolau dydd a seiclwyr yn defnyddio’r pafin neu’n mynd y cyfeiriad anghywir ar hyd stryd un-ffordd yw’r pethau sy’n fy nghythruddo fwyaf ym myd trafnidiaeth. Ddydd Sadwrn diwethaf dwi’n falch o gael dweud imi weld plismon yn gofyn i seiclwr oedd yn mynd i fyny stryd un-ffordd i’r cyfeiriad anghywir i ddod oddi ar ei feic a cherdded. Mae’n werth talu cyfran Heddlu Dyfed-Powys o dreth y cyngor wedi’r cwbl (pan fo’r cyngor yn gallu trafferthu casglu’r dreth!) Diolch flog am roi gofod i mi rantio ynddo.




![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Mae hi’n anodd iawn i’r seiclwr yng Nghymru, hefyd yn Aberystwyth – mae hi’n oce os dwyt ti ddim yn seiclo, reit! Dwi ddim yn teimlo yn saff ar y beic yn aml oherwydd y ceir. Beth am dreth y cyngor i adeiladu strydoedd go iawn i’r seiclwr? Dyma fy marn i………..;)
Dwi’n euog. Yn barod bore ma’ dwi wedi seiclo ar draws y pafin o Siop y Pethe i waelod Great Darkate Street. Heno ar fy ffordd adre’ mi fyddai’n seiclo’r ffordd chwith lawr Terrace Road a Brewer Street.
‘Pan ddeuthum yn ddyn rhoddais heibio y pethau bachgenaidd’ – naddo wir!
ON. Effaith y dope sy’n achosi hyn.
Diolch am y sylwadau, ceri wyn a Linda. Doeddwn i ddim yn disgwyl ennyn y fath deimladau cryfion mewn pobol eraill. Dim ond rhannu beth roeddwn i’n ei deimlo ar y pwnc roeddwn i. Efallai y dylwn ychwanegu bod rhai o fy nghyfeillion gorau yn seiclwyr, yn breswylwyr carafannau achlysurol ac yn berchnogion conau traffig, ond weithiau mae’n rhaid i ddyn gael dweud ei ddweud! Yn enwedig ar ôl bod yn ei wely heb weld neb am dri diwrnod. Mae teimladau yn cyniwair ynddo ac heb eu rhyddhau fe allai ffrwydro a byddai hynny’n waeth. Felly maddeuant a ddeisyfir am goleddu’r fath syniadau adweithiol gan ofyn i’w dwymyn a’i ddeliriwm gael eu hystyried wrth ei osod yn y glorian gan seiclwyr, carafanwyr a pherchnogion conau traffig fel ei gilydd. Gyda llaw, ceri wyn, dwi ddim yn credu taw tŷ gwleidydd o unrhyw fath yw’r tŷ lle’r oedd y côn traffig yn y stryd tu fas iddo.
Helo Dogfael ! Yn falch dy fod yn teimlo’n well erbyn hyn.
Finna hefyd yn colli cŵl efo seiclwyr , ac yn teimlo y dylent ddilyn rheolau’r ffordd fel y dreifwyr.
Seiclwyr ar y pafin Dogfael – paid a son!!
W’inna dueddol o gau ceg biti unrhywbeth sydd yn fy nghorddi, ac er taw un digon caredig ydw i yn fy ngeiriau tuag at bobl nag ydw i yn cytuno a nhw – mae’n gas gen i ff…. seiclwyr ac fe fetia i di taw ty ff…. Alun Davies AM yw’r ty ‘na a’i ff… gon traffig yw e hefyd