Fel y gŵyr darllenwyr Blog Dogfael rwy’n mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol gyda chyfeillion a dwi’n neilltuo peth o’m hamser i baratoi bwyd gyda’r nos fel bod y rhai sy’n gwasanaethu’r genedl yn well na fi trwy brotestio ac ymgyrchu, neu trwy farddoni a siarad am ddiwylliant yn cael eu diwallu. Dwi’n mwynhau a dwi’n ceisio gwneud rhywbeth gwahanol bob blwyddyn. Dwi’n bell o fod wedi penderfynu’n derfynol ar y fwydlen ar gyfer eleni, ac wrth gwrs mae’n bosib i bopeth newid ar y funud olaf. Ond fel dwi wedi’i ddweud o’r blaen dwi’n ceisio thema dwyrain Ewropaidd, os nad Pwylaidd ar gyfer yr wythnos. Dwi wedi bod yn chwilio trwy’r llyfrau rysáit am seigiau addas ac felly dyma ragflas o’r hyn a allai ddigwydd os yw’r eisteddfod yn mynd yn ei blaen neu beidio!
Bwydlen arfaethedig Eisteddfod 2007
| Sadwrn | Gulasz (Gwlas) |
|---|---|
| Sul | Barszcz (Cawl betys) |
| Llun | Żeberka w miodzie (Porc mewn mêl) |
| Mawrth | Kiełbasa w sosie pomidorowym (Selsig mewn saws tomatos) |
| Mercher | Bigos (Stiw'r heliwr) |
| Iau | Paprykasz (Cyw iâr mewn saws tomatos) |
| Gwener | Grochówka (Cawl cig wedi'i fygu gyda phys sych) |
| Sadwrn | Pryd wedi'i gario allan! |


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Oes yna barti yn ty chi ryw noson wythnos Steddfod???