Wrth ddod o’r eglwys heno ar ôl pregethu ar Salm 30, fe gefais sioc i glywed band drymio yn dod i fyny Stryd y Bont, Aberystwyth. Dyma oedd seremoni agoriadol Twrnamaint Pêl-droed Rhyngwladol Cymru, sy’n cael ei adnabod bellach fel Welsh International Super Cup. Yr hen enw arno oedd Twrnamaint Ian Rush. Mae wedi bod yn mynd ers dros bum mlynedd ar hugain. Roedd y rhai oedd yn gorymdeithio fel rhan o’r agoriad yn edrych yn llawn bywyd a brwdfrydedd. Dylai hyn ddod â thipyn o fywyd i’r dref dros yr wythnos nesaf. Fe glywais i’r tân gwyllt yn hedfan yn nes ymlaen yn y noson!


![[Bloglines]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/bloglines.png)
![[BlogMarks]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/blogmarks.png)
![[del.icio.us]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/delicious.png)
![[Digg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[Hugg]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/hugg.png)
![[MySpace]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Slashdot]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/slashdot.png)
![[StumbleUpon]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/stumbleupon.png)
![[Technorati]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Windows Live]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/windowslive.png)
![[Yahoo!]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/yahoo.png)
![[Email]](http://blogdogfael.org/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)








Sylwadau diweddar ar Flog Dogfael